Efallai y byddwch eisiau talu sylw at y cyngor hwn gan Safonau Masnach Wrecsam:
Os ydych chi’n bwriadu gwneud adduned newydd yn y Flwyddyn Newydd, gwnewch un sy’n effeithio ar eich arian a diogelwch eich cartref.
Pan rydym yn ein cartrefi ein hunain, mae gennym deimlad o ddiogelwch y bydd rhai o droseddwyr yn cymryd mantais ohono. Gall y troseddwyr hyn weithredu dros y ffôn, gyda llythyr drwy’r post, neges e-bost i’ch cyfrifiadur, neges destun i’ch ffôn, taflen drwy’r blwch post neu cnoc ar eich drws.
Mae troseddwr fel hyn sy’n cymryd ffurf rhywun arall yn eisiau un peth – eich arian.
Yr arian yr ydych chi wedi gweithio’n galed i’w ennill. Yr arian rydych chi wedi ei gynilo ar gyfer amser caled, gwyliau neu drît i’r wyrion. Nid oes gan y troseddwyr hyn hawl i’ch arian chi… ond nid yw hyn yn golygu na fyddant yn rhoi cynnig arni.
Bob tro mae rhywun eisiau manylion eich cerdyn, neu gofrestru i rywbeth nad ydych eisiau/angen; stopiwch a chymerwch 5 munud. Peidiwch â chytuno i unrhyw beth yn eich cartref eich hun heb gymryd amser i’w ystyried gyntaf, neu siarad ag aelod teulu neu ffrind. Mae’n amlwg iawn, ond defnyddiwch yr agwedd ‘peidio ymddiried yn neb’ a chwestiynu popeth.
Drwy gofio nad ydym wedi gofyn am yr alwad ffôn, y cnoc ar y drws, ac yna gwrthod yn gwrtais; rydym wedi mynd i’r afael â’r mater. Rydym wedi stopio’r troseddwyr o’r cychwyn cyntaf. Rydym wedi diogelu ein hunain yn ein cartref. Rydym wedi diogelu ein harian.
Cofiwch, nid yw busnesau go iawn a masnachwyr lleol dibynadwy yn ffonio heb ofyn, ac nid ydynt yn gofyn am arian parod o flaen llaw.
Mae Safonau Masnach Wrecsam yn gweithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau eich bod yn ddiogel.
Os hoffech chi roi gwybod am rywbeth amheus, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144 neu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101.
Cadwch yn ddiogel rhag twyllwyr gyda’n rhybuddion!
Cofrestrwch i gael rhybuddion am sgamiau yma!