Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwnewch Adduned Flwyddyn Newydd i fod yn saff a diogel
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gwnewch Adduned Flwyddyn Newydd i fod yn saff a diogel
Arall

Gwnewch Adduned Flwyddyn Newydd i fod yn saff a diogel

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 4, 2022 11:47 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Global watchdog warns of scammers stockpiling counterfeit goods
RHANNU

Efallai y byddwch eisiau talu sylw at y cyngor hwn gan Safonau Masnach Wrecsam:

Os ydych chi’n bwriadu gwneud adduned newydd yn y Flwyddyn Newydd, gwnewch un sy’n effeithio ar eich arian a diogelwch eich cartref.

Pan rydym yn ein cartrefi ein hunain, mae gennym deimlad o ddiogelwch y bydd rhai o droseddwyr yn cymryd mantais ohono. Gall y troseddwyr hyn weithredu dros y ffôn, gyda llythyr drwy’r post, neges e-bost i’ch cyfrifiadur, neges destun i’ch ffôn, taflen drwy’r blwch post neu cnoc ar eich drws.

Mae troseddwr fel hyn sy’n cymryd ffurf rhywun arall yn eisiau un peth – eich arian.

PEIDIWCH Â GADAEL I DWYLLWYR EICH SGAMIO! COFRESTRWCH I GAEL CYNGOR A RHYBUDDION AR SGAMIAU YN EICH ARDAL CHI

Yr arian yr ydych chi wedi gweithio’n galed i’w ennill. Yr arian rydych chi wedi ei gynilo ar gyfer amser caled, gwyliau neu drît i’r wyrion. Nid oes gan y troseddwyr hyn hawl i’ch arian chi… ond nid yw hyn yn golygu na fyddant yn rhoi cynnig arni.

Bob tro mae rhywun eisiau manylion eich cerdyn, neu gofrestru i rywbeth nad ydych eisiau/angen; stopiwch a chymerwch 5 munud. Peidiwch â chytuno i unrhyw beth yn eich cartref eich hun heb gymryd amser i’w ystyried gyntaf, neu siarad ag aelod teulu neu ffrind. Mae’n amlwg iawn, ond defnyddiwch yr agwedd ‘peidio ymddiried yn neb’ a chwestiynu popeth.

Drwy gofio nad ydym wedi gofyn am yr alwad ffôn, y cnoc ar y drws, ac yna gwrthod yn gwrtais; rydym wedi mynd i’r afael â’r mater. Rydym wedi stopio’r troseddwyr o’r cychwyn cyntaf. Rydym wedi diogelu ein hunain yn ein cartref. Rydym wedi diogelu ein harian.

Cofiwch, nid yw busnesau go iawn a masnachwyr lleol dibynadwy yn ffonio heb ofyn, ac nid ydynt yn gofyn am arian parod o flaen llaw.

Mae Safonau Masnach Wrecsam yn gweithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau eich bod yn ddiogel.

Os hoffech chi roi gwybod am rywbeth amheus, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144 neu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101.

Cadwch yn ddiogel rhag twyllwyr gyda’n rhybuddion!

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”] Cofrestrwch i gael rhybuddion am sgamiau yma! [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae ein criwiau sbwriel ac ailgylchu yn gweithio ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc Mae ein criwiau sbwriel ac ailgylchu yn gweithio ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc
Erthygl nesaf LFD Mae Citiau Profion Llif Unffordd bellach ar gael mewn rhagor o leoliadau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref
Pobl a lle Arall
Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English