Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog gyrwyr i sicrhau bod eu teiars yn barod wrth i’r gaeaf agosáu.
Mae mis Hydref yn Fis Cenedlaethol Diogelwch Teiars – ymgyrch sydd wedi’i hanelu at bwysigrwydd checio dyfnder, pwysau a chyflwr teiars yn rheolaidd.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Meddai’r Uwcharolygydd Jane Banham o Uned Plismona’r Ffyrdd: “Gyda’r gaeaf yn agosáu mae’n bwysig iawn fod pobl yn ddiogel wrth deithio ar ein ffyrdd.
“Mae teiars diffygiol a rhai heb eu llenwi ag aer yn iawn yn broblem sy’n cael effaith ar lywio’r cerbyd, brecio a sadrwydd y cerbyd. Mae’n frawychus pan ydych yn gweld cerbydau sydd â theiars heb eu llenwi ag aer yn iawn a chyda teiars peryglus.
“Yn ddelfrydol dylid gwirio teiars unwaith y mis a chyn pob taith hir. Dylai hyn gynnwys gwirio’r pwysedd aer, cyflwr cyffredinol y teiars a gweld nad ydynt wedi gwisgo’n fwy na dyfnder o 1.6mm o leiaf. Y ffordd orau o wneud hyn yw edrych ar ddyfnder rhychau’r teiar, sydd wedi cael eu gosod ar 1.6mm. Os yw hwn wedi gwisgo nes ei fod yn lefel mae’n amser newid y teiars.
“Mae’n werth hefyd gwirio’r teiar a symud unrhyw gerrig man neu unrhyw beth arall sydd yn glynu wrth y teiar, ac edrych i weld os oes yna unrhyw fochio, lympiau neu doriadau yn y teiar.
“Mae’n hanfodol fod gyrwyr yn ymwybodol mai eu cyfrifoldeb nhw ydi sicrhau fod y cerbyd maent yn ei ddefnyddio yn gyfreithlon cyn mynd ar eu siwrne.
Ychwanegodd: “Mae ein gwiriadau rheolaidd yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i gadw’r ffyrdd yn ddiogel. Gyda’r gaeaf yn dynesu hoffem ddefnyddio’r ymgyrch hwn fel cyfle i atgoffa gyrwyr i wirio cyflwr eu cerbydau. Byddwn yn cynnal rhagor o wiriadau dirybudd dros y misoedd i ddod.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am gerbydau y maen nhw’n credu eu bod yn cael eu gyrru mewn cyflwr peryglus riportio hynny i Heddlu Gogledd Cymru ar 101, neu gellir rhoi gwybod drwy’r cyfleuster sgwrsio’n fyw ar y we: http://www.north-wales.police.uk/contact/chat-support.aspx
Mae rhagor o wybodaeth am Fis Teiars Diogel ar gael ar y wefan www.tyresafe.org
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD