Dim ond ychydig o ddiwrnodau sydd ar ôl i enwebu eich arwyr chwaraeon lleol ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 2018, wedi’u cefnogi gan Wrecsam Egnïol.
Rydyn ni eisiau clywed gan unrhyw un sy’n meddwl eu bod nhw’n adnabod arwr chwaraeon – boed y person yn athletwr proffesiynol neu’n wirfoddolwr gweithgar sy’n cefnogi clwb lleol drwy hyfforddi neu wneud gwaith cynnal a chadw.
Mae llwyth o grwpiau a chlybiau ar gyfer ystod eang o chwaraeon yn Wrecsam ar lefel gymunedol.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Ni fyddai grwpiau felly’n medru dal ati heb y llu o wirfoddolwyr sy’n eu cefnogi – yn rhoi o’u hamser ac yn ymdrechu i barhau i gynnal clybiau a sefydliadau ar lawr gwlad, ac yn rhoi lle i bobl ifanc ac oedolion fel ei gilydd gymdeithasu a gwneud ymarfer corff.
Un o’r gwirfoddolwyr ydi Kieran Howard, sy’n hyfforddi rhai Dan 14 a Dan 11 yng Nghlwb Pêl-droed Brymbo ac yng Nghlwb Pêl-droed Derwyddon Cefn.
Cafodd Kieran y Wobr Wirfoddoli i Oedolion yng Ngwobrau Chwaraeon 2016 ac mae hefyd wedi’i enwebu ar gyfer gwobrau eleni yn nosbarth yr Hyfforddwyr Cymunedol.
Mae’n rheoli dros 50 o blant yn y clybiau – ac nid ar ddiwrnodau gemau’n unig – fo sydd hefyd yn gyfrifol am ymarferion drwy gydol yr wythnos.
Fe enillodd Wobr Pobl McDonald’s yng Ngwobrau Pêl-droed Cymunedol 2016 Cymru hefyd, am ei ymrwymiad i Frymbo, ac mae hefyd yn hyfforddwr i Glwb Pêl-droed Derwyddon Cefn.
Derbyn gwobr yn “bleser a braint”
Dywedodd Kieran: “Roedd yn bleser a braint – cael gwybod bod pobl yn gwerthfawrogi beth ydw i’n ei wneud. Mae’n braf cael ennill rhywbeth ar lefel leol.
Ychwanegodd: “Mae ’na lawer o arwyr heb dderbyn clod, sy’n rhoi o’u hamser ac yn ymrwymo’u hunain, a llawer o hynny heb dâl.
“Mi ydw i’n gwneud hyn gan fy mod i’n mwynhau’r gêm a bod yn rhan o fy nghymuned, a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.”
Ychwanegodd: “Mae rhywun yn ceisio gwneud gwahaniaeth yn y gymuned, yn enwedig i rai o’r plant rydw i’n gweithio gyda nhw.
“Efallai y byddwch chi’n rhoi hwb i rywun weithio’n galetach, ac mi allwch chi roi cyfle i rywun.”
Dywedodd hefyd y dylai unrhyw un sy’n ansicr ynglŷn ag enwebu arwr chwaraeon lleol wneud hynny, gan fod gwirfoddolwyr wastad yn gwerthfawrogi cydnabyddiaeth o’r fath.
“Mae’n braf – hyd yn oed meddwl bod rhywun wedi mynd ati i enwebu. Mae’n braf cael cydnabyddiaeth gan riant, neu chwaraewr ei hun – mae’n dweud eich bod chi’n gwneud yn werth chweil, yn y pen draw.”
Peidiwch â cholli’r cyfle – enwebwch eich arwr chwaraeon chi
Dywedodd y Cyng. Paul Rogers, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Fel mae Kieran ei hun yn dweud, mae ’na lawer sydd heb dderbyn clod ac mi fyddai’n bechod i ni fethu rhai ohonyn nhw.
“Os ydych chi’n meddwl bod rhywun yn deilwng i dderbyn Gwobr Chwaraeon, enwebwch nhw.”
I enwebu, naill ai e-bostiwch sportsawards@wrexham.gov.uk am ffurflen enwebu, neu ewch at y ffurflen enwebu ar-lein yma.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU