Mae’r blog hwn yn un o nifer o straeon y byddwn yn eu postio trwy gydol Wythnos Gwaith Ieuenctid 2019
Dros y saith degawd diwethaf, mae Gwobr Dug Caeredin wedi ysbrydoli a thrawsnewid bywydau miliynau o bobl ifanc o bob cefndir. O wirfoddoli i weithgareddau corfforol, o sgiliau bywyd i ymdeithiau, mae cyflawni Gwobr Dug Caeredin yn basbort i ddyfodol mwy disglair a werthfawrogir gan gyflogwyr a phrifysgolion.
Hon yw gwobr cyflawniad ieuenctid fwyaf blaenllaw’r byd. Gwyddom y gall dilyn Gwobr Dug Caeredin gael effaith gadarnhaol ar fywyd person ifanc, gan eu galluogi i baratoi ar gyfer eu dyfodol, magu hyder a rhoi hwb i’w hunan-barch.
Mae ar gael i unrhyw berson ifanc rhwng 13 a 24 oed a gallwch gymryd rhan yma yn Wrecsam.
I gael rhagor o wybodaeth am gymryd rhan yn y cynllun gwobr, ewch i gael golwg ar wefan Dug Caeredinhttps: www.dofe.org/ neu cysylltwch â thîm Dug Caeredin Wrecsam DofE@wrexham.gov.uk.
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill