Yn gynharach eleni, fe ofynnom ni i ysgolion ddylunio pecyn cinio ar gyfer yr ysgol a oedd yn iach ac heb gynnwys unrhyw blastig untro.
Thema’r gystadleuaeth oedd “bwyta’r enfys” ac roedden ni eisiau i ysgolion fod yn greadigol ac yn lliwgar wrth ddylunio’r cinio – gan ei gadw’n iach ac yn ddi-blastig.
Mae ein Tîm Ysgolion Iach a’n Tîm Ailgylchu – ar y cyd â Thîm Iechyd Parc Caia ac Adran Ddietegol Wrecsam – wedi edrych ar y cynigion ac wedi cyflwyno gwobrau a thystysgrifau i’r disgyblion buddugol.
Roedd y categorïau wedi’u rhannu rhwng Derbyn i Flwyddyn 2 a Blwyddyn 3 i Flwyddyn 6.
Ymysg yr enillwyr roedd Caitlin Griffiths, disgybl Blwyddyn 6 yn Ysgol Gymunedol Barker’s Lane, Wrecsam.
Mae Caitlin yn y llun isod efo Catherine Golightly, ein Swyddog Strategaeth Wastraff, a’r Cyng. David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant.
Hefyd yn fuddugol yn y categori Blwyddyn 3 i 6 oedd Evie Jones, disgybl o Ysgol Bryn Tabor, sydd yn y llun isod.
Dywedodd y Cynghorydd Bithell: “Mi oeddwn i’n hapus iawn efo safon y cynigion gan bob ysgol – roedd pawb a gymerodd ran yn amlwg wedi rhoi llawer o ymdrech i greu dyluniadau lliwgar, llawn gwybodaeth.
“Yn ogystal â sicrhau bod ysgolion yn llefydd iach, rydyn ni hefyd eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gallu cyfrannu at ein targedau ailgylchu ni, ac mae unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i annog disgyblion i fod yn fwy ymwybodol o gytleri a phecynnau cynaliadwy y gallwch chi eu hailddefnyddio’n beth da.”
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!DOES DIM OTS GEN