Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwobrau Iaith Gymraeg ar gyfer ysgolion ar draws Wrecsam a Sir y Fflint
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gwobrau Iaith Gymraeg ar gyfer ysgolion ar draws Wrecsam a Sir y Fflint
Pobl a lleY cyngor

Gwobrau Iaith Gymraeg ar gyfer ysgolion ar draws Wrecsam a Sir y Fflint

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 16, 2017 10:31 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Gwobrau Iaith Gymraeg ar gyfer ysgolion ar draws Wrecsam a Sir y Fflint
RHANNU

Mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi bod ym mhenawdau’r newyddion yn ddiweddar gyda chynlluniau ar y gweill i agor ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn Wrecsam.

Bydd seremoni’n cael ei chynnal yn Ysgol Bro Alyn, Gwersyllt, Wrecsam ddydd Mawrth, Hydref 17, i wobrwyo tair ar ddeg ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Sir y Fflint am eu llwyddiant gyda chyflawniad gofynion y Siarter Iaith  – cyfres o nodau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru sydd wedi’u hanelu at annog mwy o ddefnydd cymdeithasol o’r Gymraeg ymysg pobl ifanc.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Mae pob un o’r ysgolion perthnasol wedi cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau er mwyn annog plant i siarad Cymraeg yn amlach dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae disgyblion o nifer o ysgolion wedi cael cyfle i gyflwyno eu safbwyntiau.  Byddant hefyd yn cael cyfle i sôn am rai o’u llwyddiannau diweddaraf yn ystod y seremoni.

Mae wyth o’r ysgolion a fydd yn derbyn y gwobrau wedi’u lleoli ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam a’r pump arall yn Sir y Fflint.

Yr ysgolion fydd yn cael eu gwobrwyo ar y diwrnod yw:

Wrecsam

  • Ysgol Bro Alun
  • Ysgol Plas Coch
  • Ysgol ID Hooson
  • Ysgol Bodhyfryd
  • Ysgol Bryn Tabor
  • Ysgol Min y ddol
  • Ysgol Cynddelw
  • Ysgol Llanarmon DC

Sir y Fflint

  • Ysgol Croes Atti
  • Ysgol Glanrafon
  • Ysgol Terrig
  • Ysgol Mornant
  • Ysgol Gwenffrwd

Yn ogystal â gweithio gyda rhieni a’r cymunedau cyfagos, mae’r ysgolion hefyd wedi gweithio gyda’i gilydd er mwyn hyrwyddo amcanion y Siarter Iaith a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ymysg disgyblion.

Meddai’r Cynghorydd  Phil Wynn, Aelod Arweiniol dros Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Llongyfarchiadau i’r holl ysgolion sy’n rhan o hyn – maen nhw wedi gwneud ymdrechion clodwiw ac rydw i’n falch o’u gweld nhw’n cael cymeradwyaeth am hynny.

“Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn hynod o bwysig ac mae’n dda gweld yr ysgolion yn cael eu cydnabod fel hyn am yr holl waith maen nhw wedi ei wneud er mwyn sicrhau fod plant yn cael eu hannog i siarad Cymraeg nid yn unig yn yr ysgol ond y tu allan i’r ysgol hefyd.”

Meddai’r Cynghorydd Ian Roberts,  Aelod Cabinet Sir y Fflint dros Addysg ac Ieuenctid: “Mae gan Sir y Fflint ymrwymiad cryf i’r iaith Gymraeg ac rydym eisiau cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn ein sir.

“Rydym yn cefnogi pobl o bob oed i wella eu sgiliau Cymraeg a rhoi’r hyder iddyn nhw ddefnyddio’r iaith yn eu bywyd bob dydd – yn y gwaith, yn y cartref, yn yr ysgol ac yn eu cymunedau.

“Llongyfarchiadau i bob  un o’r ysgolion am gyflawni gofynion y Siarter Iaith.”

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Os ydych chi’n gyn-filwr ac yn rhan o gymuned y lluoedd arfog, darllenwch yr isod. Os ydych chi’n gyn-filwr ac yn rhan o gymuned y lluoedd arfog, darllenwch yr isod.
Erthygl nesaf Pwy ydi enillydd Cystadleuaeth Calendr mis Medi Pwy ydi enillydd Cystadleuaeth Calendr mis Medi

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam 2029
Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU
Pobl a lle
Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref
Pobl a lle Arall
Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle

Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol

Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Pobl a lleDatgarboneiddio WrecsamDigwyddiadau

Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)

Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle

Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English