Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwybodaeth arbenigol am Iechyd a Diogelwch? Dealltwriaeth o gydymffurfiaeth? Tarwch olwg ar y swydd hon…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Gwybodaeth arbenigol am Iechyd a Diogelwch? Dealltwriaeth o gydymffurfiaeth? Tarwch olwg ar y swydd hon…
Busnes ac addysgY cyngor

Gwybodaeth arbenigol am Iechyd a Diogelwch? Dealltwriaeth o gydymffurfiaeth? Tarwch olwg ar y swydd hon…

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 20, 2018 11:06 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Safety Helmet Construction Hard Hat Health and Safety
RHANNU

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch o ddifri – mae’n hanfodol bwysig ein bod cydymffurfio ym mhopeth yr ydym yn ei wneud…

Cynnwys
  • Beth fyddwch chi’n ei wneud
  • Beth fydd arnoch ei angen
  • Darganfod mwy/ymgeisio

Ac mae ein staff llawn cymhelliant yn ein helpu i gyflawni hyn 🙂

Rydym yn buddsoddi mwy a mwy yn ein tai cyngor, a dyna un o’r rhesymau pam ein bod ni’n chwilio am aelod newydd cryf i ymuno â’n tîm.

Os oes gennych chi’r sgiliau a’r wybodaeth yn y meysydd hyn, ac eisiau gweithio mewn gwasanaeth prysur a chyffrous, bydd hyn o ddiddordeb i chi!

Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am Swyddog Cydymffurfiaeth Iechyd a Diogelwch i weithio yng ngwasanaeth atgyweirio tai yr adran Economi a Thai.

Os ydych yn unigolyn brwdfrydig, profiadol a chymwys, gydag agwedd gadarnhaol, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych!

Dyma ychydig o wybodaeth bellach am y swydd…

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â rheolwyr a goruchwylwyr i sicrhau bod ein trefniadau iechyd, diogelwch a lles yn gadarn.

Byddwch yn sicrhau bod y gwasanaeth yn cydymffurfio â’i gyfrifoldebau iechyd a diogelwch ac yn ceisio dod o hyd i ffyrdd i wella ein cydymffurfiaeth.

OHERWYDD SETLIAD SIOMEDIG GAN LYWODRAETH CYMRU, MAE RHAID I NI NEUD MWY O DORIADAU. MYNEGWCH EICH BARN…

Byddwch yn ymchwilio i ddigwyddiadau a helyntion trwch blewyn ac yn cwblhau archwiliadau i sicrhau bod pethau fel ag y dylent fod ar y safle.

Byddwch yn datblygu ac yn darparu hyfforddiant, mynychu cyfarfodydd ac yn ceisio creu amgylchedd busnes iach.

Yn bwysicach fyth, byddwch yn cefnogi darpariaeth ein gwasanaethau ac yn ceisio dod o hyd i ffyrdd i wella’r amgylchedd iechyd a diogelwch 🙂

Meddai Steve Davies, Arweinydd Atgyweirio Tai: “Rydym yn cynnal a chadw 11,200 o gartrefi ar draws y fwrdeistref sirol ac mae iechyd a diogelwch ein gweithwyr yn hanfodol.

“Fel Swyddog Cydymffurfiaeth/Iechyd a Diogelwch, byddwch yn cyfrannu at sicrhau bod ein hamodau gwaith yn ddiogel i’n gweithwyr i gyd.

“Rydym yn un o’r darparwyr tai cyngor mwyaf yng Nghymru ac mae’n rhaid i ni ofalu am iechyd a diogelwch ein timau, gan sicrhau eu bod yn dychwelyd yn ddiogel i’w cartrefi at eu hanwyliaid ar ddiwedd bob dydd.

“Bydd y swydd newydd hon yn swydd sy’n rhoi llawer o foddhad i’r unigolyn cywir.”

Swnio’n dda hyd yma? Dyma ychydig o fanylion am y profiad sydd ei angen arnoch…

Beth fydd arnoch ei angen

Mae arnoch angen profiad o ddarparu cyngor a chymorth ym ymwneud ag adeiladu a/neu sefydliad llafur uniongyrchol.

Bydd arnoch angen profiad o gynnig cyngor a chyfarwyddyd i reolwyr ar bob lefel o fewn sefydliad, ynghyd â gweithredwyr rheng flaen.

Bydd arnoch hefyd angen rhai cymwysterau (neu’n gweithio tuag atynt) – gellir dod o hyd i fanylion am y rhain yn y swydd ddisgrifiad llawn.

Darganfod mwy/ymgeisio

I weld y disgrifiad swydd llawn ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen isod os gwelwch yn dda.

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw 7 Rhagfyr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrexham.gov.uk/welsh/vacancies_cy/vacancy.cfm?v_id=45E2D2A7-DF6F-2057-D77F88B7787F0DE2″] GWYCH…DDANGOSWCH Y SWYDD I MI![/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”] NA…DWI’N IAWN DIOLCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dewch i ddathlu recordiau yn Tŷ Pawb... Dewch i ddathlu recordiau yn Tŷ Pawb…
Erthygl nesaf Holt Castle History Heritage Wrexham Council 5 ffaith diddorol am Holt

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English