Diweddariad 4.3.26
Mae’r goleuadau traffig yng Nghyffordd 4 ar yr A525 (Ffordd Rhuthun) bellach yn gweithio eto, a hoffem ddiolch i yrwyr am eu hamynedd dros yr ychydig ddyddiau diwethaf.
Diweddariad 2.3.26
Ddoe bu digwyddiad traffig ffordd yng Nghyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun).
Cafodd y goleuadau traffig eu difrodi, ac er ein bod yn gweithio mor gyflym ag y gallwn i’w hatgyweirio, ni fyddant yn weithredol eto tan yn hwyrach yn yr wythnos. Mae hyn yn golygu y bydd rhywfaint o aflonyddwch am yr ychydig ddiwrnodau nesaf.
O ganlyniad, rydym yn gofyn i fodurwyr yrru’n ofalus iawn ac i ystyried defnyddio llwybrau eraill yn ystod cyfnodau traffig brig.
Hoffem ddiolch i yrwyr am eu hamynedd.
Diolch.

