O ddydd Gwener 28 -31 Gorffennaf ym Mharc Bellevue
Mae Cyfeillion Bellevue yn cynnal gŵyl bwgan brain yn y parc heno, 28ain o Orffennaf.
Bydd y bwganod brain a wneir gan grwpiau cymunedol lleol a phlant yn cael eu clymu i goed o amgylch y safle’r seindorf ar nos Wener, fel y gallant gael eu hedmygu yn ystod y digwyddiad Cerddoriaeth yn y Parc.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Os hoffech gyflwyno i’r gystadleuaeth yn hwyr dewch â’ch bwgan brain i’r parc a’i glymu i goeden cyn 6pm. Mae rhodd isafswm o £1 i gymryd rhan. Gwnewch yn siŵr bod eich enw a’ch rhif ffôn ar gefn y bwgan brain.
Gwnewch yn siŵr bod eich enw a’ch rhif ffôn ar gefn y bwgan brain..
Yn ystod y noson bydd y bwganod brain yn cael eu barnu, a bydd y mwyaf trawiadol yn ennill gwobr. Bydd yr arian a godir yn cael ei ddefnyddio gan Gyfeillion Bellevue i ariannu cofeb i gofio’r rhai a wasanaethodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Os oherwydd tywydd gwael bydd Cerddoriaeth yn y Parc yn cael ei ganslo, a bydd angen mynd a’r bwganod brain i’r ganolfan gymunedol yn y parc nesaf at y man chwarae erbyn 6pm, lle byddant yn cael eu barnu y tu mewn.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI