Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gŵyl Stryd Mis Mai
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gŵyl Stryd Mis Mai
ArallPobl a lle

Gŵyl Stryd Mis Mai

Diweddarwyd diwethaf: Mai 25, 2018 3:09 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Gŵyl Stryd Mis Mai
RHANNU

Mae canol y dref yn paratoi unwaith eto ar gyfer yr Ŵyl Stryd fisol boblogaidd, a’r mis yma mae’n sicr o fod yn llwyddiant mawr arall gydag adloniant byw, bwyd a bar stryd, crefftau, gweithgareddau plant, a stondinau bwyd crefft.

Cynnwys
  • “Enillwch car rasys bach”
  • “Nid un i’r ofnus!”

Bydd yr hwyl yn dechrau am 10am a bydd adloniant byw yn dechrau am 11.00 ar y brif lwyfan yn Stryt Henblas.  Mae Amy Dickin, Dancing Shoes, Gary Rowley, Band Pres Pwll Glo Ifton, Singing Hands Wrecsam a Siân Griffiths i gyd yn barod i ddiddanu’r ymwelwyr.

PROBLEM GYDA CHEUDWLL? DWEDWCH WRTHYM NI AR-LEIN.

“Enillwch car rasys bach”

Bydd Techniquest ar agor i chi gael golwg o amgylch y lle, a’r mis yma mae ganddyn nhw: osodiad o’r Ganolfan Gwaith Dur Prydeinig, rasys ceir bach gyda chyfle i ennill un ohonyn nhw, bysgio gwyddoniaeth, stondin wybodaeth y geidiau a’r brownis lleol ac ardal robotau gydag ymddangosiad arbennig gan robot gwadd (o’r brifysgol).  Cewch hefyd chwarae tennis bwrdd am ddim ac rydym wedi rhoi ychydig o wybodaeth at ei gilydd am y wyddoniaeth y tu ôl i’r gêm, gan edrych ar droelli, grym a chyflymder. Gyda’r planetariwm dros dro bydd modd gweld awyr y nos drwy gydol y dydd.

Newydd ar gyfer y mis hwn – 20 bag anrhegion anhygoel wedi’u haddurno â llaw ar gael, gyda 10 yn stondin Ms Fflamingo ar sail ‘y cyntaf i’r felin…..’. Bydd lleoliad y deg arall yn aros yn ddirgelwch tan fore dydd Sadwrn. Mae busnesau lleol wedi rhoi’n hael ar gyfer y bagiau hyn a rhaid diolch yn fawr i:

  • Martin Rees Jewellers
  • Aballu
  •  Abode Above
  •  Geckos
  •  A Touch of Class
  • The Lemon Tree
  •  Just Desserts
  •  Quaintways
  •  Sweets and Treats
  •  Dot to Dot café
  •  Bev’s Been Baking
  •  Emz Cakes
  •  Ms Flamingo

Fe fydd ‘na hefyd arddangosiad gwehyddu a chyfle i roi cynnig arni eich hun, ar stondin oriel tWIG

“Nid un i’r ofnus!”

I rhai mwyaf ffit ac egniol yn eich plith bydd dringo 135 o droedfeddi i ben twr Eglwys San Silyn, un o Saith Rhyfeddod Cymru, yn eich gwefreiddio gyda golygfeydd  bendigedig o Wrecsam a draw tua mynyddoedd y Berwyn, aber y Ferswy a gwastadeddau swydd Gaer. I gyd am ddim ond £4.

Cyflwynir yr Ŵyl Stryd mewn partneriaeth a Grŵp Busnes CIC Wrecsam, Wrexham Savers a Wrexham Matters, busnesau lleol a gwirfoddolwyr.

Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/online_w/eforms/pothole.htm “] DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Hwyl yn y parciau dros yr hanner tymor Hwyl yn y parciau dros yr hanner tymor
Erthygl nesaf Plant yn hela drwy’r coed am bryfed a sbwriel Plant yn hela drwy’r coed am bryfed a sbwriel

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English