I orffen ein cyfres o fideos gyda gofalwyr ifanc yn Wrecsam i gefnogi Diwrnod Hawliau Gofalwyr, gofynnom i ofalwr ifanc am safbwyntiau terfynol am ei bywyd fel gofalwr ifanc.
Mae WCD Young Carers yn credu bod pob gofalwr ifanc yn anhygoel ac maent yn eu hatgoffa nhw o hynny. Mae eu cefnogaeth wedi’i theilwra, yn cynnwys clybiau seibiant bob pythefnos i wahanol grwpiau oedran, teithiau a gweithgareddau dros wyliau’r ysgol, cefnogaeth un-i-un yn ystod amseroedd anodd, eiriolaeth a chodi ymwybyddiaeth mewn ysgolion/colegau a’r gymuned hefyd.
Fe ddewch chi o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan WCD Young Carers.
Trawsgrifiad
Gofalwyr ifanc: Mae’n wych. Mae pobl yn tueddu i feddwl – dwi’n credu bod llawer o bobl yn meddwl – nad yw gofalwyr ifanc yn cael plentyndod, neu’n tosturio dros ofalwyr ifanc.
Neu maent yn teimlo’n ddrwg, ac rwy’n gwybod nad yw llawer o ofalwyr ifanc yn hoffi hynny, ac rwy’n deall, gan ein bod ni yn cael plentyndod.
Efallai bod ein plentyndod ni ychydig yn anoddach ar adegau, ond rydym yn dal i gael plentyndod.
Rydym yn dal i gael hwyl. Rydym yn cael gwneud pethau hwyliog oherwydd sefydliadau fel WCD neu Credu, ond rydym yn bendant yn cael plentyndod.
Rydym yn dal i fod yn blant, rydym yn bobl ifanc, rydym yn dal i gael gwneud pethau hwyliog ac nid ydym angen tosturi.
Dydi’r ffaith ein bod ni â chyfrifoldebau eraill ddim yn golygu ein bod ni eisiau eich tosturi chi.
Rydym yn dal i fod yn fodau dynol. Mae ychydig o empathi a dealltwriaeth yn wych, ond nid ydym eisiau i bobl deimlo tosturi drosom ni o gwbl.