BorrowBox

Oeddech chi’n gwybod fod Llyfrgelloedd Wrecsam yn cynnig gwasanaeth lle gallwch lawrlwytho 10 eLyfr a 10 eLyfr Sain am ddim am 21 diwrnod drwy Ap BorrowBox?

Dydi benthyg cynnwys digidol erioed wedi bod mor syml, clyfar nac yn fwy cyfleus. Mae cynnwys digidol BorrowBox ar gael ar unrhyw adeg a hynny o’r gwaith, cartref neu unrhyw le a hynny 24/7. Gallwch archebu neu fenthyg hyd at 10 eLyfr Sain a 10 eLyfr ar yr un pryd.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Mae teitlau ‘No Queue’ y mis hwn yn cynnwys The Secret Paris gan Karen Swan, The Enemy gan Lee Child, She’s Out gan Lynda La Plante a The Future We Choose: Surviving the Climate Crisis gan Christiana Figueres a Tom Rivett-Carnac.

I roi cynnig ar un o’r llyfrau hyn neu i ddewis unrhyw lyfrau e-lyfr / e-sain eraill ewch i www.wrexham.gov.uk/llyfrgelloedd a dilynwch y ddolen gwasanaethau ar-lein.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL