Yn ddiweddar cyrhaeddodd tîm pêl-droed Ysgolion Sir Wrecsam rownd derfynol gemau dan 15 Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru yn y Venue, cartref y Seintiau Newydd.
Mewn gêm derfynol gyffrous yn erbyn ysgolion Caerdydd a’r Fro, llwyddodd Wrecsam i ennill y gêm 4-1 gyda golau cosb, gan ennill y tlws am ddim ond yr eildro mewn 20 mlynedd.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Oliver Haig (Ysgol Sant Joseff) oedd arwr y dydd, gan arbed tair o’r pedair gôl gosb a gymerwyd.
Cyflwynwyd tarian Glyncoed i Gapten y Tîm Pencampwyr Cenedlaethol, Scott Butler, gan Gadeirydd Ysgolion Wrecsam, John Mann.
Wedi dychwelyd i Wrecsam, cyflwynwyd eu tlysau i’r bechgyn gan Faer Wrecsam, y Cynghorydd Andy Williams mewn seremoni arbennig i nodi eu llwyddiant.
I gael rhagor o wybodaeth am Gymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru ewch i.
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN