Rhag ofn nad oeddech chi’n gwybod, rydym yn gweithio gyda sefydliadau lleol i ddarparu mynediad rhad ac am ddim at gynnyrch mislif.
Cefnogir y gwaith hwn drwy grant gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n cael ei weithredu mewn partneriaeth â’r elusen Wings Wrexham.
Ein nod yw sicrhau fod cynnyrch ar gael yn hawdd/ yn cael eu darparu yn y ffordd fwyaf ymarferol ac urddasol bosibl.
Lleoliadau
Gellir cael gafael ar gynnyrch tafladwy mewn sawl lleoliad ledled Sir Wrecsam (efallai y bydd gan rhai lleoliadau gyflenwad ychwanegol o gynnyrch tafladwy hefyd):
Ysgolion
I ddisgyblion sydd wedi dechrau yn yr ysgol uwchradd fis Medi eleni, mae cynnyrch mislif ar gael ym mhob ysgol.
I gael gwybod lle gellir dod o hyd i’r cynnyrch yn eich ysgol chi, cysylltwch â’r ysgol yn uniongyrchol (mae’r manylion cyswllt i’w gweld ar ein rhestr ysgolion).
Banciau bwyd Wrecsam
Mae gan ganolfan ddosbarthu bob banc bwyd focsys o gynnyrch am ddim.
Lleoliadau eraill ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
Ceir rhestr lawn o ble mae cynnyrch ar gael, ledled y cymunedau gwahanol yn y sir, ar ein tudalen we urddas mislif (yn ogystal ag adnoddau ar-lein sy’n ymwneud ag iechyd mislif).
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: A allech chi fod yn gefnogwr rhieni?