Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwirfoddolwch i gynorthwyo ceidwad yn Nyfroedd Alun!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gwirfoddolwch i gynorthwyo ceidwad yn Nyfroedd Alun!
ArallPobl a lle

Gwirfoddolwch i gynorthwyo ceidwad yn Nyfroedd Alun!

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 5, 2024 5:56 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Offer garddio gan gynnwys cribiniau a rhawiau
RHANNU

Allech chi ymuno â’n Diwrnod Cynorthwyo Ceidwad nesaf a helpu i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned?

Cynnwys
  • Beth yw Diwrnodau Cynorthwyo Ceidwad?
  • Pwy all helpu?
  • Sut ydw i’n ymuno y mis hwn?

Dewch draw ddydd Iau, Tachwedd 14, 2024 ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun i helpu un o’n ceidwaid a dod i adnabod eich cymuned.

Beth yw Diwrnodau Cynorthwyo Ceidwad?

Cynhelir diwrnodau Cynorthwyo Ceidwad mewn parciau lleol yn Wrecsam. Byddwch yn cael y cyfle i gwrdd â phobl newydd tra’n gweithio gyda’ch gilydd i gwblhau amrywiaeth o dasgau awyr agored.

Fe allai’r tasgau yma gynnwys clirio llwybrau, cael gwared ar rywogaethau goresgynnol, adeiladu ac ailosod ffensys, cynnal a chadw gwrychoedd, gwaith cynnal a chadw cyffredinol yn y parc, a threfnu sesiynau casglu sbwriel. Mae pob parc yn wahanol felly fe fydd y tasgau penodol yn amrywio.

Er mwyn sicrhau hygyrchedd i gymaint o bobl â phosibl, byddwn ni’n cynnal ein diwrnod Cynorthwyo Ceidwad ar ddiwrnodau gwahanol o’r wythnos ac mewn parciau amrywiol bob mis.

Pwy all helpu?

Unrhyw un 12 oed neu drosodd (rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn) sydd eisiau ymuno! Gosodir y tasgau ar y diwrnod yn dibynnu ar sgiliau a galluoedd y bobl dan sylw.

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Amgylcheddol, “Dyma gyfle gwych i gymryd rhan a deall gwaith y mae ein ceidwaid yn ei wneud i gynnal a chadw ein parciau, cyflawni gwaith cadwraeth i gefnogi’r bywyd gwyllt a sicrhau eu bod yn parhau i fod yn lleoliadau gwych i bawb eu mwynhau”.

Sut ydw i’n ymuno y mis hwn?

Os gallwch chi helpu, dewch i gwrdd â ni yng Nghaffi Cyfle ar ochr Gwersyllt Parc Gwledig Dyfroedd Alun (Ffordd yr Wyddgrug LL11 4AG) am 10 fore Iau, Tachwedd 14.

Bydd y sesiwn yn para rhwng 10am a 2pm a gallwch aros cyhyd ag y dymunwch.

Y tâl maes parcio dyddiol yw £1 gan ddefnyddio’r peiriannau talu ac arddangos (gydag arian parod neu gerdyn, neu drwy ddefnyddio JustPark – system talu heb arian).

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad hwn e-bostiwch: LocalPlacesForNature@Wrexham.gov.uk


Efallai yr hoffech hefyd ddarllen:

  • Tîm Lleoedd Diogel yn falch o gynnal Disgo Tawel ac Arddangosfa Tân Gwyllt gyda Sŵn Isel
  • Mae gardd gymunedol Rhos angen eich cefnogaeth

TAGGED:country parkGwirfoddoliparc gwledigvolunteering
Rhannu
Erthygl flaenorol Ruthin Road Car Park Beth am Barcio a Cherdded i Gemau Clwb Pêl-droed Wrecsam – Parcio ar Ddiwrnod Gêm ger y Swyddfeydd Tai, Ffordd Rhuthun
Erthygl nesaf Person yn palu’r ddaear wrth blannu coeden Dewch i roi help llaw a helpwch i blannu coed ym Marchwiel!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English