Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Beth am Barcio a Cherdded i Gemau Clwb Pêl-droed Wrecsam – Parcio ar Ddiwrnod Gêm ger y Swyddfeydd Tai, Ffordd Rhuthun
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Beth am Barcio a Cherdded i Gemau Clwb Pêl-droed Wrecsam – Parcio ar Ddiwrnod Gêm ger y Swyddfeydd Tai, Ffordd Rhuthun
Pobl a lle

Beth am Barcio a Cherdded i Gemau Clwb Pêl-droed Wrecsam – Parcio ar Ddiwrnod Gêm ger y Swyddfeydd Tai, Ffordd Rhuthun

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 5, 2024 3:44 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Ruthin Road Car Park
IMG_3926
RHANNU

Gyda llwyddiant diweddar Clwb Pêl-droed Wrecsam, mae nifer fawr o ymwelwyr wedi heidio i’r ddinas, gan gynnwys cefnogwyr timau oddi cartref a chefnogwyr o bob cwr o’r Fwrdeistref i fynychu gemau yn STōK Cae Ras, gyda chynlluniau ar droed i gynyddu maint y stadiwm.

Gyda hyn, daw rhagor o draffig a bydd rhai meysydd parcio o gwmpas y ddinas yn llawn yn ystod gemau, felly, mae’r Swyddfeydd Tai ar Ffordd Rhuthun yn treialu cynllun parcio am ddim ar ddiwrnod gêm (gemau penwythnos yn unig) er mwyn rhyddhau lleoedd ym meysydd parcio eraill canol y ddinas, yn enwedig yn ystod cyfnod prysur y Nadolig.

Gan mai cynllun peilot yw hwn, bydd modd parcio am ddim yn y safle. Bydd modd parcio ar gyfer gemau penwythnos yn unig o ddydd Sadwrn 9 Tachwedd 2024 (Mansfield Town gartref, cic gyntaf 12.30).

Mae’r cynllun hwn i dreialu trefniadau parcio ar ddiwrnod gêm yn dilyn penderfyniad yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 9 Gorffennaf 2024 i archwilio dichonoldeb y safle. Daw’r cynllun peilot i ben ar ddiwedd y tymor.

Y nod yw deall a oes galw am leoedd parcio ar safle Ffordd Rhuthun.  Os bydd galw am y safle hwn yn arbennig o uchel, mae posibilrwydd o drefnu dewisiadau talu ac arddangos yn y dyfodol.

Mae safle’r Swyddfeydd Tai yn darparu lleoedd parcio ar gyfer hyd at 143 o gerbydau ac mae’n cymryd tua 15 – 20 munud i gerdded o STōK Cae Ras.

Bydd modd parcio yno ar gyfer gemau gartref ar benwythnosau yn unig, o 3 awr cyn y gic gyntaf a bydd yn cau’n brydlon 2 awr ar ôl diwedd y gêm.

Cyfeiriad y safle:

Ffordd Rhuthun

Wrecsam

LL13 7TU

Gallwch weld yr holl gemau cartref sydd wedi’u trefnu trwy wefan Clwb Pêl-droed Wrecsam

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd, “Rydym yn treialu’r maes parcio ar safle Ffordd Rhuthun ar gyfer parcio ar ddiwrnod gêm (gemau penwythnos yn unig).  Credaf y bydd y cynllun peilot cychwynnol hwn yn gwella’r profiad i gefnogwyr sy’n mynychu’r gemau a gallai ddarparu datrysiad parcio ar gyfer cyfnodau prysur diwrnodau gêm yng nghanol y ddinas.

“Gyda thocynnau ar gyfer gemau cartref Clwb Pêl-droed Wrecsam yn gwerthu i gyd, a phryderon yn cael eu codi am barcio ger y stadiwm, bydd hyn yn caniatáu i ni weld a ellid defnyddio’r safle fel datrysiad mwy hirdymor.”

TAGGED:Footballparkingwrexham
Rhannu
Erthygl flaenorol Remembrance Sunday - image shows the cenotaph at Bodhyfryd in Wrexham Wrecsam yn Cofio – Sul y Cofio a Diwrnod y Cadoediad 2024
Erthygl nesaf Offer garddio gan gynnwys cribiniau a rhawiau Gwirfoddolwch i gynorthwyo ceidwad yn Nyfroedd Alun!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

surgery to waterloo
Cadwch y Dyddiad: 24 Medi
Digwyddiadau
Medi 16, 2026
Crematorium
Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan
Y cyngor
Medi 16, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.
Pobl a lle
Medi 16, 2026
The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Datgarboneiddio WrecsamFideo

Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)

Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam

Medi 15, 2026
Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English