“Nid oes unrhyw un erioed wedi dweud pa mor anhygoel ydw i, ac mae cael rhywun yn rhoi gymaint o ffydd ynof fi yn rhywbeth nad wyf erioed wedi’i gael o’r blaen.”
Mae rhaglen o weithgareddau magu hyder a lles i bobl ifanc wedi bod yn rhedeg yr haf hwn ac mae wedi cael adborth cadarnhaol.
Mae’r tîm ADTRAC wedi bod yn annog cyfranogwyr sy’n rhan o’r prosiect i fynd allan a chyfarfod pobl newydd drwy gymryd rhan mewn sesiynau galw heibio, sesiynau magu hyder a theithiau dydd. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan wedi bod yn adeiladu eu gwydnwch wrth ddatblygu sgiliau newydd mewn amgylchedd cefnogol.
Mae’r tîm hwn yn gweithio gyda phobl ifanc 16-24 oed sy’n profi rwystrau sy’n eu hatal rhag datblygu i naill ai addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae’r tîm yn gweithio i oresgyn y rhwystrau hyn.
Sgiliau Bywyd
Mae’r gweithgareddau llawn hwyl wedi’u hanelu at gynyddu cymhelliant wrth ddatblygu sgiliau cadw amser, gwaith tîm, cyfathrebu a sgiliau byw hanfodol eraill. Mae’r grŵp wedi cymryd rhan mewn sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrdod yn ogystal â chrefft byw yn y gwyllt a gaiff eu rhedeg gan Wild Elements. Mae gweithgareddau wedi galluogi’r bobl ifanc i ymarfer dilyn cyfarwyddiadau a mesurau diogelwch a bu cyfranogwyr ADTRAC yn creu eu blychau adar eu hunain gan ddefnyddio offer.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Mae’r tîm ADTRAC hefyd wedi trefnu diwrnodau allan i Erddig, Loggerheads a Thraeth Talacre i helpu cyfranogwyr i feithrin perthnasoedd cadarnhaol a gweithio fel rhan o dîm. Mae gweithgareddau eraill wedi cynnwys ffotograffiaeth, creu mygydau a chwarae rownderi yn y parc. Mae adborth o sesiynau’r haf wedi bod yn gadarnhaol iawn, a bu’r bobl ifanc yn mwynhau dysgu sgiliau wrth fod yn yr awyr agored. Dywedodd un o’r bobl ifanc yn ddiweddar:
“Rwyf wedi bod yn gweithio gydag ADTRAC ers nifer o fisoedd bellach ac nid wyf wedi edrych yn ôl! Rwyf wedi gallu cyfarfod pobl newydd drwy gwrs gwirfoddoli, diwrnod magu hyder, Loggerheads a’r taith i draeth Talacre. Mae fy mentor bob amser wedi gwneud i mi deimlo mor arbennig a da amdanaf fy hun. Nid oes unrhyw un erioed wedi dweud pa mor anhygoel ydw i, ac mae cael rhywun yn rhoi gymaint o ffydd ynof fi yn rhywbeth nad wyf erioed wedi’i gael o’r blaen. Rwyf bob amser yn gwenu pan fyddaf yn siarad gyda hi a’i gweld.”
Nod prosiect ADTRAC, sydd wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, yw darparu cefnogaeth bwrpasol un i un gan fentoriaid personol ADTRAC neu ymarferwyr iechyd meddwl GIG yn ogystal â hyfforddiant wedi’i deilwra a chyrsiau a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion penodol a gwella lles pobl ifanc 16-24 oed sy’n ymwneud â’r prosiect.
Cysylltwch â thîm ADTRAC ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint yn ADTRAC@wrexham.gov.uk neu ewch i https://www.gllm.ac.uk/adtrac i gael rhagor o fanylion am y prosiect hwn.
Gall Darparwyr Hyfforddiant hefyd gael rhagor o wybodaeth am System Bwrcasu Ddeinamig Prosiect ADTRAC i ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau fel sgiliau byw, cyflogadwyedd a sgiliau sy’n benodol i sectorau yn https://www.sell2wales.gov.wales/authority/authority_noticestatus.aspx?ID=75350
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION