Gall ymwelwyr â chanol y dref gyda’r nos fod yn siŵr o le diogel os byddant yn teimlo’n sâl neu’n cael problemau wrth i ganolfan les Hafan y Dref baratoi ar gyfer cyfnod prysur y Nadolig.
Mae’r ganolfan les yn cael ei gweithredu a’i staffio gan Events Medical Team www.eventsmedicalteam.com a p’un a fyddwch chi wedi colli eich ffrindiau, heb bŵer batri ar eich ffôn i’w ffonio nhw, neu’n rhy feddw i gyrraedd adref, maen nhw yno i helpu a chynnig man diogel i chi gadw’n saff.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Lle mae Hafan y Dref?
Mae Hafan y Dref yn rhan o’r bloc toiledau ar waelod Allt y Dref – clwb nos Atik. Mae’n hawdd dod o hyd iddo. Maen nhw ar agor bob nos Wener a nos Sadwrn 10pm – 4am.
Mae’r Ganolfan yn un o sawl menter sydd ar waith yng nghanol y dref i gynorthwyo unrhyw un sydd angen help yn ystod noson allan a chânt eu cefnogi gan staff drws, swyddogion yr heddlu, bugeiliaid stryd ac wrth gwrs, teulu a ffrindiau.
Dywedodd Claire McGrady, Arolygydd Dros Dro gyda Heddlu Gogledd Cymru, “Mae’r ganolfan yno i’ch helpu chi os oes angen help arnoch. Mae gan y ganolfan hanes o leihau pwysau ar y gwasanaethau brys ac o ddarparu cymorth brys i unrhyw un sydd angen help.
“Ni fyddan nhw’n barnu – maen nhw yno i helpu ac atal unrhyw niwed neu ofid diangen i unrhyw un sydd eu hangen.”
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Mae’n dda gwybod ein bod ni’n dal i allu cynnig cyfleuster mor wych i unrhyw un sydd angen help yn ystod noson allan.
“Rydym i gyd yn ymwybodol o’r pwysau sy’n wynebu ein gwasanaethau brys wrth i ni fynd i mewn i gyfnod y gaeaf a bydd y ganolfan hon yn helpu i leihau nifer y galwadau iddyn nhw wrth sicrhau diogelwch pawb sydd angen help.”
Agorodd Hafan y Dref am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2015 gyda’r nod o ddarparu man diogel lle gall pobl sy’n ddiamddiffyn oherwydd eu bod yn yfed gormod o alcohol neu’n cymryd cyffuriau gael sylw meddygol a chefnogaeth.
Mae’r ganolfan yn darparu cyfuniad o asesiad meddygol, adferiad dan oruchwyliaeth ac yn rhyddhau.
Mae’r ganolfan hefyd yn darparu gwasanaethau eraill, megis gofal bugeiliol, cymorth i’r rhai sy’n cysgu ar y stryd a chyngor i’r rhai sydd ar goll neu sydd angen mynd adref. Gall hefyd ddarparu sylfaen ffisegol i bartneriaid sy’n rheoli’r economi nos leol.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL