Yr ‘Amgueddfa Dau Hanner’ yw ein henw llaw-fer i ddisgrifio’r prosiect a fydd yn gweld datblygiad Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam newydd yn adeilad presennol yr amgueddfa ar Stryt y Rhaglaw yn Wrecsam.
Bydd yr amgueddfa newydd yn dathlu pêl-droed Cymru, yn ei holl amrywiaeth, a bydd yr amgueddfa’n cynnal rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau i ysbrydoli pawb sy’n ymweld i ddysgu, i fod yn egnïol a chyflawni eu potensial.
Mae’r arolwg hwn yn gyfle pwysig i rannu eich syniadau a rhoi sylwadau ar ein cynlluniau. Dylai’r arolwg gymryd llai na 10 munud i’w gwblhau.
Os dymunwch gael eich rhoi mewn raffl am £50 o dalebau siopa bydd cyfle i chi roi eich manylion ar y diwedd.
Mae’r raffl hon ar gyfer ymatebwyr o’r DU yn unig. Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau yw 11pm ar 17 Medi 2023. Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap a’i hysbysu erbyn 11pm ar 24 Medi 2023. Gweler y telerau ac amodau llawn a amlinellir yn y cynnig.
Mae hwn yn arolwg annibynnol sy’n cael ei gynnal ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Cwblhewch yr arolwg yma.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch