Heddiw rydym ni’n croesawi i Wrecsam panel o feirniaid deheuig o’r gystadleuaeth Dinas Diwylliant.

Bydd y panel yn mynd ar daith ar draws y sir i gael blas o Wrecsam fel rhan o’u broses o wneud penderfyniad am le i wobrwyo’r fraint o fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2025.

Da ni’n gobeithio rhoi teimlad i’r panel am be da ni’n trio gwneud gyda’r cais.

Bydd ennill y gystadleuaeth yn golygu fod y teitl mawreddog Dinas Diwylliant y DU yn dod i Gymru am y tro cyntaf. Wrecsam fydd y ffocws am Ddiwylliant am yr holl DU am flwyddyn gyfan! Yn dod a lles mawr i’r ardal.

Bydd DCMS yn rhannu newyddion ar yr ymweliad ar draws ei gyfryngau cymdeithasol.

Twitter: @DCMS

Facebook ac Instagram: /dcmsgovuk

LinkedIN:  Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a chwarae.

Mi fyddwn ni’n rhannu lluniau a chynnwys ar twitter CBCW @cbswrecsam yn defnyddio’r #nod #wrecsam2025 #cityofculture2025

Fedrwch ddarganfod mwy o wybodaeth am ein cais a chysylltu i ddarganfod sut i gymryd rhan drwy ymweld a wrecsam2025.com

Amser Cyffrous

#Wrecsam2025