Mae’r Grant Datblygu Disgyblion yn awr ar agor am geisiadau sy’n golygu y gallech gael help gyda chostau gwisg ysgol a mwy.
Bydd unrhyw un sy’n gymwys am, ac yn derbyn prydau ysgol am ddim yn y grwpiau blwyddyn ysgol canlynol yn gymwys am y grant:
- Plant sy’n mynd i’r dosbarth derbyn yn yr ysgol gynradd
- Plant sy’n mynd i flynyddoedd ysgol 1, 3, 5, 7, 8, 9, 10 ac 11
- Plant sydd mewn ysgol arbennig, adnodd anghenion arbennig neu uned atgyfeirio disgyblion sy’n 4, 5, 7, 9, 11, 12, 13, 14 neu 15 oed.
Nodwch os gwelwch yn dda nad yw plant sydd â hawl i brydau ysgol am ddim oherwydd trefniadau diogelu trawsnewidiol yn gymwys am y grant hwn. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag uned prydau ysgol am ddim Cyngor Wrecsam ar e-bost i gael rhagor o wybodaeth: schoolmeals@wrexham.gov.uk.
Defnyddiwch y ddolen hon i gewl gwybod mwy.
Gallwch ddefnyddio’r grant tuag at gostau:
- gwisg ysgol
- dillad ac offer chwaraeon
- gwisg ar gyfer gweithgareddau ehangach (e.e. chwaraeon, sgowtiaid a geidiau)
- offer/cyfarpar (e.e. bagiau ysgol, beiros, pensiliau ac ati)
- offer arbenigol os bydd gweithgareddau newydd sy’n rhan o’r cwricwlwm yn dechrau (e.e. dylunio a thechnoleg)
- eitemau ar gyfer tripiau y tu allan i oriau’r ysgol (e.e. dillad glaw ar gyfer dysgu awyr agored)
- gliniadur neu ddyfais llechen
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN