Rydym yn gofyn i ymwelwyr, siopau a busnesau yng nghanol y ddinas i roi gwybod i ni am eu profiadau o signal rhwydwaith symudol pan maent yn Wrecsam.
Mae pedwar cwestiwn i ateb a byddwn yn defnyddio’r ymatebion i roi adborth i weithredwyr rhwydwaith symudol fel y gallent helpu i wella’r ddarpariaeth
Dywedodd y Cyng. Nigel Williams, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio, “Mae signal rhwydwaith symudol yn rhan hanfodol o’n bywydau’r dyddiau hyn ac rydym yn ymwybodol fod problemau mewn rhai ardaloedd yng nghanol y ddinas yr hoffem ei wella.
“Cymerwch amser i ateb y cwestiynau fel y gallwn weithio’n uniongyrchol gyda darparwyr er mwyn gwella’r ddarpariaeth ar gyfer yr ardal.”
Gallwch ddod o hyd i’r cwestiynau ac mae’r arolwg ar agor tan 14 Gorffennaf 2023.
Cymerwch ran rŵan