Yn ôl ym mis Gorffennaf, i ddathlu llwyddiannau diweddar y clwb a’r positifrwydd mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi’i roi i’r ddinas, cafodd arwyddlun blodeuog Clwb Pêl-droed Wrecsam ei blannu ar Rodfa San Silyn. Roedd yr arwyddlun yn rhan o’n cynnig yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau hefyd.
Ers hynny, mae’r arwyddlun blodeuog wedi troi’n dirnod newydd lliwgar sy’n denu pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae nifer fawr o beillwyr lleol wedi bod yno, yn ogystal â rhai sydd am dynnu hunlun, a chawsom ymweliad gan westai arbennig iawn o’r clwb yn ddiweddar iawn.
Clwb Pêl-droed Wrecsam
Wrth ddod i weld yr arddangosfa, dywedodd Prif Weithredwr Clwb Pêl-droed Wrecsam, Michael Williamson: “Llongyfarchiadau i bawb a fu’n rhan o hyn. Mae’r arwyddlun blodeuog yn edrych yn wych, ac rydym yn falch o fod yn gysylltiedig â’r prosiect mannau gwyrdd hyfryd hwn. Rydym ni’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant 2029 a gyda Chyngor Wrecsam i helpu cymuned Wrecsam i dyfu.”
Nawdd Dinas Diwylliant
Noddwyd yr arddangosfa flodau gan gais Dinas Diwylliant 2029 Wrecsam, dywedodd Amanda Davies, Cyfarwyddwr y Cais Diwylliant, “Roedd tîm y cais yn hapus iawn o allu noddi gwaith plannu arwyddlun blodeuog Clwb Pêl-droed Wrecsam. Rydym yn gyffrous i rannu’r cynlluniau creadigol a gweledol sydd gennym ar gyfer cais 2029 yn y dyfodol agos. Roedd yn wych bod y Clwb yn rhan o gais 2029 ar y cam cynnar hwn.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, y mae’r cais Dinas Diwylliant yn rhan o’i bortffolio, “Bydd ein gweithgareddau ar gyfer cais Dinas Diwylliant y DU 2029 yn prysuro dros y misoedd nesaf. Bydd tîm y cais yn parhau ei gwaith gyda’n cysylltiadau presennol a hefyd edrych ar gysylltu â sefydliadau cymunedol ac unigolion yn y dyfodol agos wrth i ni edrych at gyfleoedd a datganiadau o ddiddordeb sy’n gysylltiedig â chefnogi ein cais uchelgeisiol ar gyfer Wrecsam 2029.”