Ydych chi eisiau helpu’r amgylchedd, bod yn actif yn yr awyr agored a chwrdd ag eraill yn y gymuned wrth wneud hyn?
Byddwch yn wirfoddolwr am y diwrnod – helpu i blannu coed ar hyd llwybr troed Ffordd Llannerch!
Cefndir
Cyllido yn llawn – Cefnogir y digwyddiad gan Gronfa Coed mewn Argyfwng Coed Cadw.
Bydd yn helpu tuag at ein nodau fel rhan o Addewid Coetir Wrecsam (sy’n amlinellu ein hymrwymiad i gynyddu gorchudd canopi coed, a gwarchod y coetir presennol ar draws y fwrdeistref sirol).
Ar y diwrnod
Cynhelir y digwyddiad ar ddydd Sadwrn, 18 Ionawr, 2025 o 10am – 2pm.
Os ydych yn aros dros amser cinio dewch â’ch pecyn bwyd a diod eich hunain. Darperir diodydd poeth a bisgedi. Hefyd, nid oes toiledau ar y safle, felly cynlluniwch ymlaen llaw.
Rhaid i blant ddod gydag oedolyn, mae plannu coed yn addas ar gyfer yr holl deulu, ond bydd plant ifanc angen cymorth oedolyn wrth balu tyllau.
Darperir yr holl offer ac mae menyg ar gael i’w defnyddio. Gwisgwch ddillad cynnes sy’n addas i’r tywydd ac esgidiau glaw neu esgidiau cryfion!
Byddwn ar y safle rhwng 10-2pm ond mae croeso i chi aros cyhyd ag y dymunwch.
Man cyfarfod / cyfarwyddiadau
Cyfarfod wrth y fynedfa i’r llwybr troed y tu ôl i Ffordd Llannerch oddi ar Ffordd Afoneitha.
Y lleoliad what3words yw godrais.sleisen.cloddfa (mae what3words yn darparu ‘cod’ yr union leoliad, gan ddefnyddio geiriau ar hap, i helpu pobl i ddod o hyd i leoliadau pan nad yw cyfeiriadau stryd yn ddigon cywir).
Rhowch wybod i ni os oes gennych ddiddordeb
Os hoffech gysylltu i wirfoddoli neu wneud sylw am y cynllun plannu coed cysylltwch â woodlandpledge@wrexham.gov.uk.
Eisiau helpu gyda digwyddiadau yn y dyfodol?
Rydym yn galw ar fusnesau, unigolion, grwpiau cymunedol ac ysgolion a hoffai helpu i blannu coed gyda Chyngor Wrecsam, i gysylltu â ni, gan y bydd mwy o gyfleoedd trwy gydol y gaeaf i bobl gymryd rhan.
Cysylltwch â woodlandpledge@wrexham.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: