Mae ein gwasanaethau gwastraff yn parhau i addasu i’r sefyllfa bresennol ac mae ein timau yn gweithio’n ddiflino i ddarparu’ch gwasanaeth ailgylchu wythnosol gyda chyn lleied o amhariadau â phosibl. Fodd bynnag, mae yna ychydig o bethau sydd arnom ni angen i chi eu gwneud i’n helpu ni yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mae’ch cadw chi a’n criwiau ailgylchu yn ddiogel yn flaenoriaeth i ni ac felly mae gennym ni ragofalon hylendid llym ar waith. Fodd bynnag, mae arnom ni angen eich cymorth chi hefyd.
Ailgylchu ychwanegol
Gan ein bod ni’n gweld mwy o ddeunyddiau ailgylchu na’r arfer, oherwydd bod pobl yn gweithio gartref ac ysgolion ar gau, mae llawer ohonoch chi wedi bod yn gadael deunyddiau ailgylchu ychwanegol i ni eu casglu.
Os bydd eich bocsys neu’ch bagiau ailgylchu yn llawn gallwch adael y deunyddiau ychwanegol mewn cynwysyddion wrth ymyl eich blychau ailgylchu ar y diwrnod casglu, ac fe awn ni â nhw.
Ond, os ydych chi’n gwneud hyn, cofiwch eu didoli yn ôl yr arfer. Er enghraifft, dylech chi roi papur a chardbord mewn un cynhwysydd, caniau a phlastig mewn un arall a gwydr mewn cynhwysydd ar wahân.
Yr unig ffordd ddiogel
Mae’n rhaid i’n gweithwyr allu codi’r cynhwysydd a’i wagio yn syth i’r blwch cywir yn y cerbyd. Er diogelwch, ni allan nhw gyffwrdd â’r deunyddiau y gellir eu hailgylchu.
Felly mae’n rhaid i ni bwysleisio mai’r unig ffordd ddiogel i fynd â’ch ailgylchu ychwanegol yw gofyn i chi ei ddidoli a’i roi mewn cynwysyddion ar wahân. Os na fyddwch chi’n gwneud hyn yna ni fyddwn ni’n eu gwagio.
Gwneud y mwyaf o’r lle
Mae gwneud y mwyaf o’r lle sydd ar gael yn gallu’ch helpu chi i beidio â gorfod defnyddio cynwysyddion ychwanegol.
Bydd bocsys cardbord yn cymryd llai o le yn eich sach las/bocs uchaf os ydych chi’n eu torri neu’n eu plygu cyn eu rhoi i mewn.
Mae gwasgu’ch poteli plastig hefyd yn syniad da i wneud mwy o le yn eich bocs ailgylchu.
Golchi cynwysyddion
Cofiwch olchi eich dwylo a diheintio handlenni eich bag/bin/bocs cyn ac ar ôl i chi eu cyffwrdd.
Rydym ni hefyd yn gofyn i chi olchi’r cynwysyddion rydych chi’n eu defnyddio i roi’ch eitemau ychwanegol.
Gwasanaeth wythnosol
Hoffem eich atgoffa ein bod ni’n parhau i wagio’ch cynwysyddion ailgylchu yn wythnosol.
Mae rhai preswylwyr wedi dweud wrthym ni eu bod yn meddwl bod y cynwysyddion ailgylchu yn cael eu gwagio yn ystod yr un wythnos â’r biniau du. Dydi hyn ddim yn wir.
Does dim modd ailgylchu hancesi papur
Dydi hancesi papur ddim yn eitemau sy’n cael eu hailgylchu. Plîs peidiwch â’u rhoi yn eich sach las/bocs uchaf gan y byddan nhw’n halogi’r eitemau eraill.
Oherwydd y pandemig presennol, mae’n rhaid i chi roi hancesi papur yn eich bin gwastraff cyffredinol.
Os ydych chi’n hunan-ynysu ac yn teimlo’n sâl, rhowch eich gwastraff personol (fel hancesi papur) mewn bag, ac yna mewn bag arall, a’u rhoi o’r neilltu am 72 awr cyn eu rhoi allan ar gyfer eu casglu.
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth
Hoffem unwaith eto ddiolch i chi i gyd am eich geiriau a’ch negeseuon caredig yr ydych chi wedi’u gadael ar gyfer ein criwiau.
Daliwch ati i ddangos eich cefnogaeth. Maen nhw’n gweithio’n ofnadwy o galed ar adeg anodd iawn.
Mae’n beth pwysig ac mae’n codi eu calonnau yn ystod y cyfnod heriol yma. Diolch.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19