Ydych chi wedi clywed am ein Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO)? Peidiwch â phoeni os nad ydych chi wedi 🙂
Mae’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) yn golygu sicrhau y gall pob un ohonom ddefnyddio mannau cyhoeddus yn ddiogel rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol… mae’n rhywbeth sy’n cael ei weithredu i’n helpu i fwynhau Wrecsam ar ei orau.
Ym mis Awst 2016, rhoddodd ein Bwrdd Gweithredol gymeradwyaeth ar gyfer PSPO tair blynedd o hyd yn Wrecsam. Wrth i ni nesáu at ddiwedd y cyfnod yma, mae angen i ni ei adolygu, felly dyna pam rydym ni angen eich cymorth 🙂
Felly, gadewch i ni wybod beth rydych chi’n ei feddwl yma
Rydym angen eich barn ar gadw ein mannau cyhoeddus yn ddiogel, a gallwch ddweud wrthym trwy gymryd rhan yn ein hymgynghoriad cyhoeddus.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn y cyhoedd a chyrff eraill sydd â diddordeb ynghylch â ydi’r PSPO presennol yn berthnasol ac a ddylai barhau.
Yr ardal sydd wedi’i gynnwys yn y PSPO ydi canol y dref a rhannau o Rhosddu. Gallwch weld y map o’r ardal sydd wedi’i gynnwys yn y Gorchymyn yma
Hyd yma, mae’r Gorchymyn wedi cefnogi’r Cyngor a’n partneriaid yn ein dull wrth fynd i’r afael â nifer o bryderon penodol sy’n gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal berthnasol. Mae hefyd wedi annog pobl ddiamddiffyn i dderbyn cefnogaeth a gwasanaethau, gan helpu i dorri’r cylch o ymddygiad a bregusrwydd y gallant fod yn gaeth iddo.
O safbwynt digartrefedd, cysgu ar y stryd a begera, nod y Cyngor a phartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus yw cynnig cefnogaeth i bobl yn yr amgylchiadau hyn.
Felly, beth ydi Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus?
Pan fo problemau neu achosion o niwsans yn yr ardal yn effeithio ar ansawdd bywyd y gymuned leol, fe allwn gyflwyno rheolau i ddelio ag o. Mae’r rheolau neu ‘orchmynion’ hyn wedi’u dylunio i sicrhau y gall pob un ohonom ddefnyddio mannau cyhoeddus sydd yn ddiogel rhag ymddygiad gwrth gymdeithasol.
Mae ‘gorchymyn’ yn gosod cyfyngiadau a gofynion am ymddygiad penodol mewn ardal. Gall y gorchymyn bara am gyfnod o hyd at 3 blynedd.
Mae hi’n drosedd peidio â chadw at y gorchymyn, a gallwch naill ai gael rhybudd cosb benodedig o £100 neu gael eich erlyn, a allai arwain at gael dirwy o hyd at £1,000.
Mae arnom eisiau eich barn!
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i bennu barn y cyhoedd a chyrff eraill sydd â diddordeb o ran a oes cefnogaeth yn parhau i fod i’r mesurau sydd wedi eu cynnwys yn y PSPO ac y dylent barhau.
Felly, gadewch i ni wybod beth rydych chi’n ei feddwl yma
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl – Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Y PSPO ydi un o’r teclynnau a’r deddfwriaethau sydd ar gael i ni fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol er lles unigolion diamddiffyn a phreswylwyr, ymwelwyr a busnesau lleol. Rydym yn ymwybodol nad gorfodi yn unig yw’r ateb i’r problemau, ond mae’n rhan hanfodol o ymagwedd holistaidd rydym wedi ei mabwysiadu gan gynnwys cyfraniadau gan yr Awdurdod Lleol, Heddlu Gogledd Cymru, Iechyd a chyrff elusennol.
Rydym yn gweithio ar y cyd i ddileu unrhyw rwystrau sy’n bodoli sy’n atal pobl ddiamddiffyn rhag ymgysylltu’n gadarnhaol gyda gwasanaethau a sicrhau y cynigir llwybrau cadarnhaol i bobl allan o’u sefyllfa.”
Mae’n amlwg trwy beidio â mynd i’r afael â phryderon yn effeithiol, y gallai gael effaith andwyol ar Wrecsam”.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd y Bwrdd Gweithredol yn ystyried canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Hydref 2019 a bydd ar gael ar wefan y cyngor.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION