Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Hen Olew? Cymerwn ni hwnnw!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Hen Olew? Cymerwn ni hwnnw!
Pobl a lleY cyngor

Hen Olew? Cymerwn ni hwnnw!

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 13, 2018 3:15 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
cooking, oil, recycling, centre
RHANNU

Nid yw cael gwared ag olew coginio yn un o’r swyddi hawsaf yn y gegin.

Cynnwys
  • Cynwysyddion olew newydd
  • Hen olew – tanwydd newydd
  • “Sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill”

Gall ceisio ei dywallt i gynhwysydd arall fod yn annymunol a blêr, a gallai deimlo fel ymdrech diangen os ydych yn taflu’r cynhwysydd i ffwrdd yn y diwedd; neu’n aros i’r olew galedu cyn ei daflu i’r bin gyda phopeth arall.

Ond – er ein bod ni gyd yn gwneud hynny! –  ni allwn ei dywallt lawr y draen, gan fod hynny’n arwain at y risg o dagu’r pibellau neu greu mynydd o fraster, sy’n anodd ei waredu ac achosi problemau enbyd i gwmnïau gwastraff a dŵr wrth iddynt geisio cadw’r pibellau a charthffosydd i lifo.

WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA

Yn ffodus, mae gennym ateb a fydd yn rhwystro tagu’r draeniau – a rhoi defnydd newydd i’r hen olew…

Cynwysyddion olew newydd

Yn ddiweddar, rydym wedi gosod cynwysyddion olew yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref ym Mhlas Madog, y Lodge, Brymbo a Lôn Bryn ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam.

Hen Olew? Cymerwn ni hwnnw!

Os ydych chi’n awyddus i gael gwared â’ch olew coginio, gofynnwch i un o’n gweithwyr ar y safle i ddatgloi’r cynhwysydd olew i chi.

Tywalltwch yr hyn rydych angen ei waredu, ac fe wnawn ni’r gweddill.

Hen olew – tanwydd newydd

Rydym ni’n adfer yr olew gwastraff trwy broses naturiol o hidlo a gwaddodi.

Mae’n swnio’n gymhleth, ond yn syml, rydym yn aros i’r olew trymaf wahanu o’r olew ysgafnaf.

Caiff yr olew o’r holl gynwysyddion ei adael i setlo mewn tanciau mawr am ddwy i bum wythnos, er mwyn caniatáu i’r broses uchod ddigwydd.

Unwaith y caiff y broses ei gwblhau, caiff y gwaddod trwm ei dynnu o’r tanciau a chaiff yr olew ysgafnaf, puraf ei hidlo a’i droi mewn i hylif bio o’r enw LF100, sy’n gyfeillgar yn amgylcheddol, ac yn ddefnyddiol iawn.

Yna gall yr LF100 gael ei ddefnyddio mewn pwerdai ecogyfeillgar er mwyn cynhyrchu ynni adnewyddadwy, sy’n cael ei ddefnyddio i bweru cartrefi a busnesau ar draws y DU.

Nid yw’n ffordd ddrwg o gael gwared â hen fraster bacwn!

Ac, yn well fyth, mae’n cadw’r golau ymlaen a’r pibellau i weithio.

“Sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill”

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rwy’n falch o weld y cynwysyddion olew newydd yn cael eu gosod yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref sy’n cael eu rhedeg gan FFC Environment.

“Hoffwn annog teuluoedd i ailgylchu beth bynnag y gallent, a gwneud hynny mor hawdd â phosib iddynt.

“Gan feddwl bod yr olew a ddefnyddir yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu ynni gwyrdd, mae’n sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill, ac felly gobeithiwn y bydd pobl yn manteisio ar y cyfle cyn gynted â phosib.”

Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/community_services/flytipping.htm “] DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Artistiaid enwog, ar bapur, yn Wrecsam... Artistiaid enwog, ar bapur, yn Wrecsam…
Erthygl nesaf Wrexham news O Dan y Bwâu – A ydych wedi cael eich tocynnau?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English