Mae tîm Cefnogi Ieuenctid a Chwarae Wrecsam yn annog plant a theuluoedd i fynd allan a chymryd rhan yn “Haf o Chwarae”.
Fel rhan o “Haf o Chwarae” rydym wedi bod yn geoguddio i blant fynd i chwilio amdanyn nhw (gweler y manylion am sut i ddod o hyd iddyn nhw isod).
Rydyn ni wedi dewis mannau chwareus ar draws Wrecsam i geoguddio, a hoffem i blant chwarae gyda’r hyn maen nhw’n ei ddarganfod ac yna ei roi yn ôl yn barod i’r person nesaf ddod o hyd iddo.
Mae ambell guddiad yn cynnwys pethau y gellir eu Mae Geoguddio yn helfa drysor fyd eang, sydd am ddim i’w lawr lwytho ar gyfer y cuddfeydd sylfaenol neu mae tâl blynyddol os ydych eisiau hela cuddfeydd pris uwch (does dim angen hyn o gwbl oni bai eich bod yn penderfynu eich bod eisiau gwneud mwy).
Gall unrhyw un guddio un, felly wyddoch chi byth sut fyddan nhw’n edrych neu beth i’w ddisgwyl. holrhain, ac os dewch o hyd i un, gallwch ei agor i weld o ble y daeth ac yna ei helpu i gyrraedd pen ei daith. Bydd gennych ddwy wythnos i’w guddio eto mewn cuddiad arall. Mae rhai o’r rhain wedi teithio o amgylch y byd sawl gwaith.
Rhestr Wirio Geoguddio
- beiro
- pethau i’w cyfnewid
- plyciwr
- eli pigiad / danadl poethion
- ffôn wedi ei gwefru
- byrbrydau a diodydd
- diheintydd dwylo
- awydd am antur
Sut mae Geoguddio’n gweithio?
Lawr lwythwch yr ap ac yna dewiswch ardal yr ydych am ei archwilio. Bydd pob cuddiad yn rhoi gwybodaeth i chi am yr amgylchedd. Bydd rhai yn anodd cyrraedd atynt gyda phramiau, ond mae rhai mewn parciau gwledig a phentrefi hygyrch.
Defnyddiwch y cliwiau i ddod o hyd i’r cuddiad, gallant fod fel magnetau bychain gyda rholyn o bapur i logio eich darganfyddiad, neu gallant fod yn focsys mawr yn llawn teganau plastig (rhai am ddim i hyrwyddo’r gêm). Os ydych yn ddigon lwcus i ddod o hyd i un gyda theganau ynddo, mae croeso i chi eu cymryd, ond rhaid i chi adael rhywbeth sy’n perthyn i chi yn ei le.
Mae’n rhaid gadael pob cuddiad fel y cewch chi nhw. Yna, rydych yn logio eich darganfyddiad.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN