Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newid Hinsawdd – mae ein cynlluniau wir yn dechrau siapio i fynd i’r afael ag o
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle
50
Arbenigwyr gwelyau hynafol Wrecsam yn dathlu 50 mlynedd
Busnes ac addysg
Ai dyma'r swydd i chi? Dyma ddetholiad byr o rai o’r swyddi sy’n wag ar hyn o bryd…
Ai dyma’r swydd i chi? Dyma ddetholiad byr o rai o’r swyddi sy’n wag ar hyn o bryd…
Busnes ac addysg
Terry Fox Run
Mae Ras Terry Fox yn dychwelyd
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Newid Hinsawdd – mae ein cynlluniau wir yn dechrau siapio i fynd i’r afael ag o
Pobl a lleY cyngor

Newid Hinsawdd – mae ein cynlluniau wir yn dechrau siapio i fynd i’r afael ag o

Diweddarwyd diwethaf: 2021/08/03 at 4:24 PM
Rhannu
Darllen 8 funud
Climate Change
RHANNU

Ar gyfer gweddill y flwyddyn rydym yn bwriadu cynyddu ac ehangu’r gwaith hwn mewn modd cost effeithiol a chynaliadwy a theimlwn y byddai’n ddefnyddiol amlinellu rhai o’r cynlluniau sydd gennym mewn golwg yn unol â’n meysydd blaenoriaeth.

Cynnwys
AdeiladauCludiant a SymudeddDefnydd TirCaffael (y ffordd yr ydym yn cael gafael ar ein nwyddau a’n gwasanaethau)

Rydym yn bwriadu gwario cyfanswm o £640k eleni i gefnogi’r gwaith a wnawn i wneud Wrecsam yn Amgylchedd Gwyrdd Glân.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Adeiladau

  • Mae gennym lawer o adeiladau ledled Wrecsam gan gynnwys ysgolion a swyddfeydd ystâd tai. Bydd gan fwy o adeiladau y dechnoleg ddiweddaraf i sicrhau ein bod yn defnyddio’r ynni lleiaf posib ac yn cyflawni’r arbedion carbon uchaf posib.
  • Eleni byddwn yn edrych ar wario oddeutu £67,000 yn gosod Systemau Rheoli Adeiladau (BMS) yn rhai o’n hysgolion i fonitro a rheoli gwasanaethau yn effeithiol megis gwresogi, awyru ac aerdymheru. Bydd hyn yn cynnwys rhaglen o 10 ysgol, 3 ohonynt yn ysgolion uwchradd mawr, i gyflawni cyfoeth o fanteision o ran gostwng allyriadau carbon o ganlyniad i wresogi ein hadeiladau.
  • Bydd ysgolion hefyd yn elwa o uwchraddio’r goleuo, rydym wedi cynllunio i osod cynllun goleuo LED mewn 4 ysgol gynradd ac 1 ysgol uwchradd fawr, am gost o fwy na £150,000.
  • O fewn ein depo mawr ar Ffordd Rhuthun byddwn yn edrych ar y posibilrwydd o osod system storio batri i gysylltu â’u system PV solar sy’n bodoli – a fyddai’n costio oddeutu £200,000.
  • Bydd y Depo Amgylchedd yn Ffordd yr Abaty yn ystyried cael system PV Solar i gefnogi ehangu nifer y pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar gyfer y fflyd drydan sy’n cynyddu’n barhaus.
  • Byddwn yn gwario £55,000 ar Adeiladau’r Goron a adnewyddwyd, gosodir system PV mawr, a fydd yn cefnogi’r gostyngiad mewn allyriadau carbon o’r adeilad.

Cludiant a Symudedd

  • Mae gennym eisoes eithaf tipyn o gerbydau trydan ac rydym yn parhau i osod pwyntiau gwefru EV mewn mwy o’n safleoedd i sicrhau y gallwn eu gwefru’n effeithiol. Dros y misoedd nesaf byddwn yn defnyddio arian grant Llywodraeth Cymru (£35,000) i gynyddu nifer y pwyntiau gwefru sy’n hygyrch yn gyhoeddus, a’u gosod yn ein lleoliadau mwy gwledig, er enghraifft byddwn yn gosod pwynt gwefru ym maes parcio Holt, a fydd yn cefnogi’r symudiad i gerbydau trydan yn ein pentrefi amlinellol, a sicrhau cyfleusterau gwefru i ymwelwyr.
  • Rydym bellach yn cynyddu nifer y cerbydau trydan a ddefnyddiwn ac rydym newydd gael nifer o gerbydau newydd i’w defnyddio gan ein Hadran Amgylchedd ac rydym yn aros am y cerbydau trydan casglu sbwriel cyntaf yng Nghymru.  Mae’r fflyd Amgylchedd yn un o’r mwyaf yn ein sefydliad a gellir eu gweld ar ein ffyrdd bob dydd felly mae hyn yn gam enfawr tuag at ostwng ein carbon.
  • Rydym wedi gallu defnyddio arian Llywodraeth Cymru o £300,000 i gefnogi’r cynnydd mewn isadeiledd gwefru yn safleoedd y Cyngor a chefnogi ein symudiad i fflyd drydanol, trwy sicrhau bod gennym y cyfleusterau gwefru ar gael i wefru’r cerbydau yn rhwydd.

Defnydd Tir

  • Rydym yn berchen ar lawer o dir ac adeiladau cysylltiedig ledled y fwrdeistref sirol ac mae sicrhau eu bod o ansawdd uchel a chynnig yr amgylchedd gorau ar gyfer ecoleg yr ardal yn bwysig.
  • Mae coed yn ased pwysig ac eang ym mhob cymuned a byddwn yn parhau i gynyddu plannu coed a phlannu rhai cyfwerth neu well wrth i’r coed ddod i ddiwedd eu bywyd naturiol. Byddwn hefyd yn plannu ardaloedd coetir a chefnogi grwpiau a sefydliadau sydd eisiau sefydlu eu gerddi cymunedol eu hunain.
  • Trwy wneud hyn byddwn yn gwrthbwyso unrhyw garbon a gynhyrchwn a dechrau gweld newid.

Caffael (y ffordd yr ydym yn cael gafael ar ein nwyddau a’n gwasanaethau)

  • Efallai mai hwn yw’r rhan fwyaf canolog ein cynlluniau ond yr un na fydd y cyhoedd yn ei weld – prynu nwyddau a gwasanaethau, o fwyd ar gyfer prydau ysgol a cherbydau sbwriel i bapur ac inc. Rhaid iddynt oll gael eu cynhyrchu a’u datblygu a byddwn yn newid y ffordd rydym yn edrych ar gontractau i ystyried y gwerth y gall cynigwyr ei ddarparu i gefnogi ein targedau carbon niwtral.
  • Dod yn garbon niwtral i ostwng ein heffaith ar newid hinsawdd.

Mae bioamrywiaeth hefyd yn bwysig iawn ac rydym wedi plannu blodau gwyllt mewn hyd at 9 ardal ychwanegol – mae hyn yn ychwanegol i’r plannu ar ein cylchfannau.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Rydym yn bwriadu datblygu’r meysydd hyn bob blwyddyn ac i barhau i helpu preswylwyr i greu eu hardaloedd blodau gwyllt eu hunain.

Newid Hinsawdd – mae ein cynlluniau wir yn dechrau siapio i fynd i'r afael ag o
Newid Hinsawdd – mae ein cynlluniau wir yn dechrau siapio i fynd i'r afael ag o
Newid Hinsawdd – mae ein cynlluniau wir yn dechrau siapio i fynd i'r afael ag o
Climate Change

Er bod yr holl gynlluniau hyn yn uchelgeisiol byddant ond yn ddefnyddiol os ydym yn gallu mesur eu heffeithiau a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i osod ein gwaelodlin er mwyn i ni allu gosod targedau cyraeddadwy wrth i ni symud tuag at fod yn garbon niwtral erbyn 2030 i ostwng ein heffaith ar newid hinsawdd.

Dywedodd y Cynghorydd A Bithell, Aelod Arweiniol Amgylchedd a Chludiant a Chefnogwr Newid Hinsawdd, “Mae newyddion diweddar yn dangos pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa ac rydym bellach mewn sefyllfa yma yn Wrecsam i weld gwaith difrifol a cynaliadwy yn digwydd a all wirioneddol wneud gwahaniaeth. Mae hi’n hanfodol erbyn hyn fod ein hymrwymiad carbon niwtral wedi ei wreiddio ym mhob agwedd ar ein gwaith ac mae’n galonogol iawn gweld fod hyn yn dechrau digwydd.

“Nid ydym yn gweithio ar ben ein hunain ac mae’n bwysig cydnabod y gwaith mae ein partneriaid yn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru a Bwrdd Uchelgais Economaidd yn ei wneud i sicrhau ein bod yn gwneud hyn ar y cyd ac mewn ffordd a reolir.”

“Byddaf yn diweddaru’r cyngor yn ddiweddarach eleni ar sut mae’r gwaith pwysig hwn yn datblygu.”

I ddatblygu’r gwaith pwysig hwn rydym yn dymuno penodi Rheolwr Newid Hinsawdd a Gostwng Carbon a fydd yn sicrhau fod popeth a wnawn yn cael ei wneud mewn modd carbon niwtral a’i fod yn rhan allweddol o’n gwaith o wagu biniau i adeiladu ysgolion.

Os yw gwneud rhywbeth am Newid Hinsawdd yma yn Wrecsam yn rhywbeth yr hoffech ei wneud gallwch edrych ar yr hyn rydym yn edrych amdano yn yr erthygl isod.

Mae gennym gyfle cyffrous i rywun arwain ein cynlluniau ar gyfer Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon.

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN

Rhannu
Erthygl flaenorol Contact Wrexham Bydd Galw Wrecsam yn ailagor ar gyfer apwyntiadau
Erthygl nesaf geocaching Her Chwareus Geoguddio

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Mehefin 30, 2025
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Mehefin 30, 2025
50
Arbenigwyr gwelyau hynafol Wrecsam yn dathlu 50 mlynedd
Busnes ac addysg Mehefin 30, 2025
Ai dyma'r swydd i chi? Dyma ddetholiad byr o rai o’r swyddi sy’n wag ar hyn o bryd…
Ai dyma’r swydd i chi? Dyma ddetholiad byr o rai o’r swyddi sy’n wag ar hyn o bryd…
Busnes ac addysg Mehefin 27, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr

Mehefin 30, 2025
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?

Mehefin 30, 2025
Terry Fox Run
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Ras Terry Fox yn dychwelyd

Mehefin 27, 2025
Tidy Wales Awards 2025
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Gwobrau Cymru Daclus 2025 – mae’r enwebiadau nawr ar agor!

Mehefin 27, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English