Yr hanner tymor hwn, mae Llyfrgell Wrecsam yn dathlu hoff eliffant pawb, Elfed!
Drwy gydol hanner tymor, Mai 26 – Mehefin 2, bydd pob math o weithgareddau crefftau gan gynnwys creu baneri bach Elfed a chlustiau Elfed, a gosod y trwnc ar Elfed – yn ogystal â helfa drysor gyda thema Elfed!
Mae’r gweithgareddau am ddim ac yn digwydd bob dydd yn y llyfrgell. Nid oes angen cadw lle!
Bydd Storytime (dydd Mawrth 2-2.30pm) a Stori a Chân (dydd Mercher 10-10.30am) yr wythnos honno hefyd yn cynnwys stori Elfed neu Elmer. Gwahoddir plant i wisgo eu dillad mwyaf llachar i’n helpu i ddathlu’r eliffant hoffus hwn.
Cafodd Elfed ei greu gan David McKee a’i gyhoeddi am y tro cyntaf gan Andersen Press fel Elmer yn 1989. Ers hynny mae clytwaith eiconig Elfed a’i gymeriad wedi ei wneud yn ffefryn mawr i filiynau o aelwydydd ledled y byd. Mae Elfed yn annog plant i dderbyn gwahaniaethau pobl eraill a arfer goddefgarwch a charedigrwydd. Edrychwn ymlaen i’ch gweld chi yn ystod hanner tymor!
COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR