Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pam ein bod ni’n gofyn i’r wasg a’r cyhoedd adael cyfarfodydd?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Pam ein bod ni’n gofyn i’r wasg a’r cyhoedd adael cyfarfodydd?
ArallY cyngor

Pam ein bod ni’n gofyn i’r wasg a’r cyhoedd adael cyfarfodydd?

Diweddarwyd diwethaf: Mai 23, 2018 2:00 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Pam ein bod ni’n gofyn i’r wasg a’r cyhoedd adael cyfarfodydd?
RHANNU

Efallai eich bod chi wedi darllen yn ddiweddar ein bod ni’n gofyn i’r wasg a’r cyhoedd adael yr ystafell yn ystod cyfarfodydd fel nad ydynt yn clywed nac yn adrodd ar yr hyn sy’n cael ei drafod.

Cynnwys
  • “ceir achosion pan fo cyhoeddi gwybodaeth yn niweidiol”
  • “bydd y Cadeirydd yn ymyrryd”
  • “anhapus”

Pam gwneud hyn? Mae’r ateb yn syml iawn.

Rydym ni’n galw hyn yn “Rhan II” ac mae’n digwydd pan fo cyfarfod yn derbyn gwybodaeth neu’n trafod eitemau y gellir eu heithrio rhag cael eu cyhoeddi dan y gyfraith.

PROBLEM GYDA CHEUDWLL? DWEDWCH WRTHYM NI AR-LEIN.

Yn aml iawn fe wneir hyn oherwydd bod yr wybodaeth a ddatgelir yn ymwneud ag unigolyn penodol neu’n debygol o ddatgelu unigolyn; busnes neu faterion ariannol person neu gorff, gan gynnwys y Cyngor; neu ymgynghoriadau neu drafodaethau am gydberthynas llafur.

Wrth edrych ar y rhesymau uchod, mae’n ddyletswydd arnom ni i ystyried budd y cyhoedd a phenderfynu a yw datgelu’r wybodaeth er budd y cyhoedd. O ran datgelu gwybodaeth am unigolyn, os yw datgelu’r wybodaeth yn debygol o olygu torri Deddf Diogelu Data 1998 neu gael effaith ar yr unigolyn dan sylw, anaml iawn y gwelir hynny yn rhywbeth er budd y cyhoedd.

“ceir achosion pan fo cyhoeddi gwybodaeth yn niweidiol”

O ran materion busnes neu ariannol ac ymgynghoriadau a thrafodaeth yn ymwneud â chydberthynas llafur, er bod y Cyngor yn ceisio trafod materion o’r fath yn gyhoeddus pan fo’n bosibl, ceir achosion pan fo cyhoeddi gwybodaeth yn niweidiol, naill ai i fusnes y Cyngor neu i drydydd parti neu i gydberthynas llafur.

Weithiau amseru yw’r broblem ac efallai nad yw gweithwyr y Cyngor yn ymwybodol o newidiadau arfaethedig i ddarpariaeth gwasanaeth a all effeithio ar eu swyddi neu arwain at ddiswyddo staff, ac ni fyddai’n deg iawn petaent yn cael gwybod am hynny gan y wasg. Gall datgelu cynlluniau trydydd parti, sy’n dymuno gwneud busnes yn y Fwrdeistref Sirol ac arnynt eisiau cefnogaeth y Cyngor, hefyd fod yn niweidiol.

“bydd y Cadeirydd yn ymyrryd”

Fel rheol rhoddi’r eitemau o’r fath ar ddiwedd rhaglenni, lle nodir yn glir “Rhan II – gwahardd y wasg a’r cyhoedd”. O bryd i’w gilydd gall eitem a drafodir ar ddechrau cyfarfod fynd ar gyfeiliorn a gellir dechrau trafod eitemau Rhan 11. Pan fydd hyn yn digwydd bydd y Cadeirydd yn ymyrryd ac os yw’r drafodaeth ar yr eitem eithriedig yn mynd i barhau bydd y pwyllgor yn penderfynu gofyn i’r wasg a’r cyhoedd adael yr ystafell hyd nes bydd y drafodaeth ar yr eitem eithriedig wedi dod i ben.

Mae unrhyw benderfyniad a wneir dan Ran II yn cael ei gofnodi a’i gyhoeddi.

“anhapus”

Rydym ni’n sylweddoli y bydd aelodau o’r cyhoedd a’r wasg yn anhapus ynghylch methu gwrando ar yr hyn sy’n cael ei ddweud ac rydym ni’n ceisio sicrhau bod busnes y Cyngor yn cael ei gyhoeddi hyd y bo modd. Fodd bynnag, ceir achosion pan fo rheswm da dros eithrio gwybodaeth rhag cael ei chyhoeddi, a hynny’n unol â statud.

Rydym ni’n gobeithio bod hyn yn egluro pethau o ran yr adegau pan ofynnir i’r wasg a’r cyhoedd adael yr ystafell – a gallwn eich sicrhau bod eitemau yn cael eu rhestru dan Ran II pan fo rheswm da iawn dros wneud hynny.

Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”

button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/online_w/eforms/pothole.htm “] DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Hoff eliffant pawb! Hoff eliffant pawb!
Erthygl nesaf Ffair Swyddi yn y Neuadd Goffa Ffair Swyddi yn y Neuadd Goffa

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English