Mae Ysgol Bodhyfryd yn gymuned o bobl – plant, athrawon, rhieni, llywodraethwyr, ffrindiau a chymdogion…
Mae’r gymuned hon yn chwilio am arweinydd brwdfrydig i’w harwain a’u helpu i lunio’u dyfodol. Mae’n gyfle gwych i’r person cywir ac os credwch mai chi yw hwnnw/honno, daliwch i ddarllen…
Cefndir yr ysgol…
Mae Ysgol Bodhyfryd yn ysgol ‘dosbarth melyn’ ar hyn o bryd… sy’n golygu ei bod yn ysgol dda… ond mae’n awyddus i fod yn ardderchog!
Dyma’r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg fwyaf a hynaf yn Wrecsam? Mae 397 o ddisgyblion yno a 47 o staff addysgu (gan gynnwys cynorthwywyr addysgu), a’u brwdfrydedd nhw fydd yn llywio’r gwelliant hwn.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Dywed Cadeirydd y Llywodraethwyr, Suzanne Price, bod lles, cynwysoldeb, gwaith tîm, safonau uchel a disgwyliadau uchel i gyd yn rhan flaenllaw o ethos yr ysgol:
“Gyda’n Gilydd” yw arwyddair ein hysgol ac mae’n gynrychioliad gwir o’r ysgol – rydym yn ysgol gyfeillgar a gofalgar sydd â Chymdeithas Rhieni ac Athrawon frwd a chorff llywodraethu cefnogol.
“Roedd ein cyn bennaeth gyda ni am 18 mlynedd cyn symud ymlaen i swydd gydag Estyn – mae’r plant bellach yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu pennaeth newydd.”
Mae’r plant wedi dylunio gwaith celf i gefnogi’r ymgyrch recriwtio ac nid oes unrhyw un gwell i ddweud wrthych am yr ysgol nag un o’i disgyblion…
Dywed Summer: “Mae angen pennaeth gwych arnom oherwydd mae ein hysgol yn arbennig. Mae gennym blant parchus sy’n barod i ddysgu.
“Mae angen pennaeth arnom a fydd yn dangos parch ac yn barod am her.”
Y person sydd ei angen arnynt
Bydd angen llawer iawn o frwdfrydedd arnoch a bydd gofyn i chi fod yn siaradwr Cymraeg. Byddwch naill ai’n bennaeth profiadol neu’n ymarferydd addysgu eithriadol sydd â chymhwyster CPCP.
Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig dros welliant, bydd gennych brofiad o arwain, byddwch yn gallu gweithio’n dda fel aelod o dîm a bydd gennych sgiliau cyfathrebu gwych.
Byddwch yn barod i edrych i’r dyfodol ac ni fyddwch yn ofni rhoi cynnig ar bethau newydd.
Felly, hoffech chi gael cyfle i arwain y tîm hyfryd hwn?
Am drafodaeth anffurfiol, ffoniwch Cadeirydd y Llywodraethwyr, Suzanne Price ar 07970 028550.
Gwych … Ddangoswch y SWYDD Na… Dw i’n iawn ddiolch