Hoffech chi weithio oriau hyblyg a chael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a/neu swydd arall?
Hoffech chi gyflog da a threuliau teithio?
Sut mae hyfforddiant am ddim a chefnogaeth barhaus yn swnio?
Os yw hyn o ddiddordeb i chi, efallai y byddech yn gwneud Gofalwr Rhannu Bywydau perffaith! Does dim angen profiad arnoch chi felly darllenwch ymlaen i ganfod mwy…
Mae’r gwasanaeth Rhannu Bywydau yn canolbwyntio ar bobl hŷn a phobl sydd â dementia, dementia cynnar neu salwch iechyd meddwl arall ac sydd wedi eu nodi fel pobl sydd angen y gwasanaeth hwn.
Mae gofalwyr yn cael eu paru’n ofalus ag unigolion ac mae llawer iawn o amser yn cael ei dreulio i sicrhau bod pawb yn hapus ac yn gyfforddus.
Rhoddir hyfforddiant i bob ymgeisydd llwyddiannus ac, ar ôl dechrau’r swydd, bydd cefnogaeth barhaus ar gael bob amser.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o fenter Rhannu Bywydau ac os hoffech chi wybod mwy am y gwasanaeth, cysylltwch â Lynette Lewis neu Risha Jurkojc ar 01978 298429 neu e-bostiwch sharedlives@wrexham.gov.uk.
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT