Os oes gennych gynnyrch i’w werthu, efallai y dylech chi ystyried rhentu stondin yn un o’n marchnadoedd Nadolig. Mae digwyddiadau blaenorol wedi denu cynhyrchwyr lleol a rhanbarthol sy’n gwerthu ystod eang o nwyddau gan gynnwys crefftau artisan, melysion, sawsiau, pasteiod, pwdinau ac anrhegion!
Byddwn yn cynnal dwy farchnad eleni:
Marchnad Fictoraidd – San Silyn a’r ardal gyfagos – 5 Rhagfyr
Pentref Nadolig – Llwyn Isaf – 13 – 15 Rhagfyr
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Mae’r ddwy farchnad wedi bod yn boblogaidd iawn yn y gorffennol gyda bron i 33,000 yn ymweld â’r Farchnad Fictoraidd a gynhelir yn Eglwys San Silyn a’r ardal gyfagos. A chafwyd dros 27,000 o ymwelwyr â’r Farchnad Nadolig ar Llwyn Isaf.
Mae prisiau’r stondinau’n rhesymol iawn ar gyfer y ddwy farchnad a gallwch gael rhagor o fanylion drwy anfon e-bost i events@wrexham.gov.uk.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN