Ers agor ym mis Ebrill, mae Tŷ Pawb wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau cerddorol byw gwych.
Mae’r cyngerdd sydd yn ddod i fynu ar ddiwedd y mis yn addo i fod yn un arall bendigedig!
Ar ddydd Sadwrn 25 Awst, bydd band o Siapan, Qujaku, yn dod â’u cymysgedd hyfryd a hypnotig o roc seicoelig pwerus i Wrecsam am noson drawiadol o gerddoriaeth fyw wych.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
‘Ffefrynnau lleol’ yn dychwelyd i Wrecsam
Mae Qujaku wedi dod yn hoff o dorf Wrecsam dros y blynyddoedd diwethaf yn dilyn nifer o berfformiadau gwych, gan gynnwys yng ngŵyl FOCUS Wales yn 2016 a 2017.
Dyma flas o beth i ddisgwyl –
Bandiau Cymreig yn ymuno â’r barti
Bydd Qujaku yn perfformio yn Nhŷ Pawb fel rhan o daith ledled y DU i gefnogi ei albwm newydd.
Ond nid dyna’r cyfan! Hefyd ar y bil am y noson fydd masnachwyr sŵn o gymru, The Contact High.
Bydd ffefrynnau Wrecsam, Baby Brave, yno hefyd i agor y nos gyda pherfformiad acwstig.
Bydd Bar Bach yn agored ac wedi’i stocio’n llawn am y noson wrth gwrs!
Mae angen gweld perfformiad Qujaku i’w credu! Mae’n brofiad clywedol bythgofiadwy a ffordd wych o ddathlu penwythnos gwyliau banc! Peidiwch â’i golli!
Sut i gymryd rhan
- Bydd Qujaku yn perfformio yn Nhŷ Pawb ddydd Sadwrn Awst 25.
- Mae’r drysau’n agor am 7.30pm.
- Mae’r tocynnau yn £8 yr un.
- I ddarganfod mwy ac i phrynu tocynnau ewch i dudalen digwyddiad Facebook.
Ewch i wefan Tŷ Pawb yma
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION