Bydd cymunedau lleol yn elwa o well gwasanaethau bws min nos diolch i fuddsoddiad o £200,000 gan Gyngor Wrecsam.
Cafodd y cyllid ei gymeradwyo gan Fwrdd Gweithredol y Cyngor ym mis Gorffennaf i helpu i roi hwb i gludiant cyhoeddus i breswylwyr lleol, ac ysbarduno’r farchnad bysiau lleol sydd wedi bod yn dioddef ers pandemig Covid-19.
Yn dilyn ymarfer caffael, mae Arriva Bus Wales wedi ennill y contract i ddarparu gwasanaethau ychwanegol.
Fe fydd y cwmni yn darparu gwasanaethau ychwanegol min nos ac ar ddydd Sul ar rai o’r llwybrau presennol yn ardal Wrecsam, ac fe fydd y newidiadau yn weithredol tuag at ddiwedd mis Tachwedd.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol gyda chyfrifoldeb dros Gludiant Strategol: “Mae’n bleser gen i gyhoeddi gwasanaethau bws gwell min nos yn Wrecsam. Mae hyn yn newyddion da i bobl leol ac i’r economi leol.
“Cefnogodd y Cyngor £200,000 ychwanegol o fuddsoddiad i wasanaethau bws yng nghyllideb eleni, gan gefnogi cludiant cyhoeddus a’n cynllun datgarboneiddio.
“Rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi cludiant cyhoeddus ac mae ein cyhoeddiad yn mynd yn groes i’r tueddiad yng Nghymru lle rydym ni’n gweld gostyngiad mewn gwasanaethau.
“Fe wnaethom brofi’r farchnad drwy ein gweithdrefn gaffael ac rydw i wrth fy modd bod Arriva wedi ennill y contract ar gyfer gwasanaethau bws ychwanegol.
“Fe fydd y gwasanaethau min nos newydd yn cael eu cyflwyno ar 26 Tachwedd – neu’n gynt os caiff ei gymeradwyo gan y comisiynydd traffig – ac rydym ni’n gweithio gydag Arriva i’w hyrwyddo ymlaen llaw fel bod pawb yn ymwybodol ac yn gallu gwneud dewisiadau teithio gwahanol.
“Mae’r ardaloedd rydym ni’n canolbwyntio arnynt yn cefnogi llwybrau presennol lle nad oes gennym wasanaethau min nos nac ar benwythnosau, ac rydym ni’n gobeithio y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i nifer o bobl a chymunedau lleol.”
I gael mwy o wybodaeth am wasanaethau bws lleol, ewch i wefan Cyngor Wrecsam neu Arriva Bus Wales.