Hwyl i deuluoedd yng Nghanolfan Tŷ Ni, Wrecsam.
Dydd Mawrth, Hydref 29, 1-3pm.
Ar y diwrnod hwn, byddwn yn cynnal sesiynau hwyliog i chi a’ch plant eu mwnhau gyda’ch gilydd.
Yn gynnwys:
- Chwarae mewn dŵr a thywod
- Chwarae synhwyraidd
- Crefftau
- Cacennau am ddim
- Helfa drysor
- Gweithgareddau beicio
- Gemau
- Lluniaeth
- Cyfarfod y tïm a chael gwybod beth rydyn ni’n ein gwneud
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
A ydych chi erioed wedi meddwl beth all Canolfannau i Deuluoedd ei gynnig i chi a’ch teulu?
Beth am ddod draw yn ystod yr oriau hwylus uchod? Mae’n gyfle gwych i deuluoedd gyfarfod y tim yn y Ganolfan i Deuluoedd a chael gwybod beth rydyn ni’n ei gynnig i gefnogi rhieni/gofalwyr a phlant.
Rydym yn darparu cefnogaeth, cyngor a chyfarwyddyd i blant a phobl ifanc a’u teuluoedd ar draws Wrecsam.
Drwy berthnasau gwaith parchus rydym yn archwilio achosion a datrysiadau, datblygu dulliau ymdopi a chefnogi eich dewisiadau bywyd cadarnhaol ar gyfer y dyfodol.
Y Gwasanaethau Sydd Ar Gael:
- Cymorth i Rieni
- Cymorth Arbenigol i Rieni – camddefnyddio sylweddau/ cam-drin domestig
- Cefnogi Tenantiaethau. Cymorth i Deuluoedd
- Grŵp Plant Dechrau’n Deg
- Rhaglenni Grŵp Rhianta / Rhaglen Grŵp Arbenigol
- Sesiynau Galw Heibio gyda’r nos yn Nhŷ Ni: y dydd Iau cyntaf a’r trydydd o bob mis, 4:30 i 6:30pm
- Grŵp Rhiant a Phlentyn / Pwyleg
Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch ȃ:
01978 295670
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD