Ymunodd grŵp o bobl ifanc o ddau brosiect lleol a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) â’i gilydd ddydd Mercher 9 Mai i ddathlu diwrnod yr UE ynn Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Roedd y diwrnod yn cynnwys ystod eang o weithgareddau llawn hwyl ar draeth Talacre, cinio yng Nghanolfan Ieuenctid Treffynnon ac ymweliad i Gastell y Fflint i gloi. Lluniwyd y digwyddiad gyda thema ‘Blwyddyn y Môr’ Llywodraeth Cymru mewn golwg, yn ogystal ag arddangos beth sy’n wych am ‘Treftadaeth Ddiwylliannol’ Cymru i gyd-fynd gyda’r thema ar draws Ewrop ar gyfer dathliadau Diwrnod Ewrop eleni.
Dywedodd Karen Whitney-Lang, Rheolwr Rhaglen Prosiectau TRAC ac ADTRAC ar draws Wrecsam a Sir y Fflint, a threfnydd y digwyddiad: “Mae’r ddau brosiect wedi elwa o gyfanswm 900 o bobl rhwng 11 a 24 mlwydd oed ers lansio TRAC ym mis Ebrill 2016 ac ADTRAC ym mis Ionawr eleni. Mae’r staff a’r bobl ifanc a aeth i ddigwyddiad heddiw yn cynrychioli llwyddiant y prosiect hyd yn hyn, ac mae’n wych fod pawb wedi cofleidio’r diwrnod. Rydym yn falch iawn o arddangos effeithiau cadarnhaol buddsoddiad Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae’r digwyddiad wedi cael ei gynnwys mewn cystadleuaeth Diwrnod UE ADTRAC 16-24 ac rydym i gyd yn croesi ein bysedd y bydd y wobr yn dod i Ogledd Ddwyrain Cymru, er bod cystadleuaeth gref gan ein cydweithwyr mewn siroedd cyfagos”.
Dathliadau ar draws Ewrop
Cynhelir Diwrnod Ewrop bob blwyddyn ym mis Mai, ac mae’n dathlu heddwch ac undod yn Ewrop. Mae’r dyddiad yn nodi pen-blwydd ‘datganiad Schuman’. Mewn araith ym Mharis yn 1950, nododd Robert Schuman, gweinidog tramor Ffrainc ar y pryd, ei syniad am fath newydd o gydweithio gwleidyddol yn Ewrop, a fyddai’n gwneud y syniad o ryfel rhwng cenhedloedd yn un amhosibl ei ddychmygu. Mae cynnig Schuman yn cael ei ystyried fel dechrau, beth sydd nawr yn cael ei alw’n Undeb Ewropeaidd. Bob blwyddyn mae miloedd o bobl yn cymryd rhan mewn dathliadau ar draws Ewrop i nodi Diwrnod Ewrop ac i godi ymwybyddiaeth o’r UE.
I ddathlu gyda’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn prosiectau a ariennir gan ESF, gweithiodd aelodau o dimau TRAC a ADTRAC Wrecsam a Sir y Fflint mewn partneriaeth gyda Groundwork Gogledd Cymru i gynnal ystod eang o weithgareddau llawn hwyl, o hedfan barcud a chodi cestyll tywod i ras sbrowts Brwsel a llwy ar y traeth!
Rhoddodd gyfle i bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiectau i fwynhau diwrnod llawn hwyl a chael cefnogaeth lles gan eu Mentoriaid Ymgysylltu Ieuenctid i fagu eu hyder a’u hunan-barch. I rhai o’r bobl ifanc oedd yn cymryd rhan, dyma eu profiad gyntaf o ymweld â thraeth a chastell, a rhoddodd y diwrnod gyfle iddynt i fwynhau rhai o safleoedd lleol Gogledd Ddwyrain Cymru.
Cefnogaeth Un-i-Un
Mae prosiectau TRAC ac ADTRAC yn cael eu noddi’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, gan gynnig cefnogaeth bersonol i bobl ifanc rhwng 11 a 24 mlwydd oed, i ddymchwel rhwystrau a’u helpu i ymgysylltu â’u haddysg neu i fynd ymlaen i waith, addysg neu hyfforddiant.
Cewch wybod mwy am y prosiect ADTRAC neu cysylltwch â thîm ADTRAC Wrecsam a Sir y Fflint ar ADTRAC@wrexham.gov.uk i gael rhagor o fanylion ynghylch y broses atgyfeirio ar gyfer sefydliadau yn ogystal â hunan-atgyfeiriadau.
Cewch wybod mwy am y prosiect TRAC neu cysylltwch dros e-bost ar TRAC@wrexham.co.uk.
COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR