Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dewch i fwynhau FOCUS Wales yn Tŷ Pawb…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dewch i fwynhau FOCUS Wales yn Tŷ Pawb…
Pobl a lleY cyngor

Dewch i fwynhau FOCUS Wales yn Tŷ Pawb…

Diweddarwyd diwethaf: Mai 9, 2018 6:53 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Dewch i fwynhau FOCUS Wales yn Tŷ Pawb...
RHANNU

Dewch i fwynhau FOCUS Wales yn Tŷ Pawb...Mae FOCUS Wales yn cyrraedd Wrecsam ddydd Iau!

Cynnwys
  • Artistiaid o bob cwr o’r byd
  • Digon o weithgareddau!

Mae’r ŵyl tri diwrnod yn cael ei chynnal mewn sawl lleoliad o amgylch Wrecsam, gyda pherfformiadau gan 200 a mwy o fandiau ac amserlen lawn o sesiynau’r diwydiant rhyngweithiol, comedi, digwyddiadau celfyddydol a ffilmiau.

Mae lleoliad newydd sbon hefyd yn cael ei ddefnyddio yn rhan o’r ŵyl eleni – ein Tŷ Pawb ni!

Bydd canolfan Gymunedau, Celfyddydau a Marchnadoedd newydd Wrecsam yn frith o weithgarwch dros dridiau’r ŵyl.

EWCH YN WYRDD – DEWISWCH FILIAU TRETH CYNGOR DI-BAPUR…

Artistiaid o bob cwr o’r byd

Gyda thri llwyfan, Tŷ Pawb fydd y lle i weld perfformiadau byw gan artistiaid o wledydd o bob cwr o’r byd, gan gynnwys Hwngari, Canada a Chorea – yn ogystal â rhai’n nes at adref!

Bydd FOCUS Wales hefyd yn cynnal nifer o gynadleddau rhyngweithiol yn Oriel a mannau perfformio Tŷ Pawb. Bydd y rhain yn cynnwys sesiynau cyngor i artistiaid sy’n datblygu, sesiynau rhwydweithio a thrafodaethau panel gyda rhai proffesiynol o’r diwydiant.

Bydd y marchnadoedd, yr ardal fwyd a’r orielau ar agor fel arfer drwy gydol yr ŵyl felly gallwch brofi pob dim arall sydd gan Dŷ Pawb i’w gynnig yn ogystal â gwrando ar ychydig o gerddoriaeth fyw wych!

Dewch i fwynhau FOCUS Wales yn Tŷ Pawb...Digon o weithgareddau!

Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol:

“Mae FOCUS Wales wedi helpu i roi Wrecsam ar y map, gan ddenu miloedd o bobl i’r dref i gefnogi ein heconomi a’n busnesau lleol, yn ogystal ag arddangos ein sîn gerddoriaeth a chelfyddydau lewyrchus i’r byd.

“Gydag ein hamrywiaeth o farchnadoedd, yr ardal fwyd a’r orielau, bydd Tŷ Pawb yn lle gwych i fynd i fwynhau FOCUS Wales ac rydyn ni’n falch o fod yn cydweithio mor agos gyda’r ŵyl eleni. Bydd miloedd o ymwelwyr ar draws y byd yn dod drwy’r drysau a gobeithio y bydd pob un wedi’u plesio gan yr hyn fyddan nhw’n ei weld.”

Bydd FOCUS Wales yn cael ei gynnal ar 10, 11 a 12 Mai mewn sawl lleoliad yma yn Wrecsam.

I weld yr amserlen lawn ar gyfer FOCUS Wales ac i brynu tocynnau, ewch i’r wefan swyddogol – www.focuswales.com

Caiff FOCUS Wales ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Wrecsam.

Sylwch – bydd ein holl weithgareddau Dydd Iau Pawb wythnosol, gan gynnwys Mini-Movers, Dawns i Blant, Sied y Dynion a’r Dosbarth Darlunio Bywyd, yn dychwelyd fel arfer yr wythnos ganlynol – 17 Mai.

Bydd clwb celf dydd Sadwrn yn dychwelyd ar 19 Mai.

Cyflym, effeithlon ac yn dda am yr amgylchedd – dewiswch filiau Treth Cyngor di-bapur trwy FyNghyfrif

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/MyServices”] COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dewch i ddychmygu dyfodol Wrecsam... Dewch i ddychmygu dyfodol Wrecsam…
Erthygl nesaf Hwyl yn yr haul i ddathlu prosiectau lleol o fudd i 900 o bobl ifanc Hwyl yn yr haul i ddathlu prosiectau lleol o fudd i 900 o bobl ifanc

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English