Rydym eisiau atgoffa preswylwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd y bydd casgliadau yn cael eu cynnal yn fisol eto yn ystod mis Rhagfyr, Ionawr a Chwefror.
“Casgliadau bob pythefnos yn ailddechrau ym mis Mawrth”
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r galw am y casgliadau hyn yn sylweddol is dros y gaeaf ac mae lleihau nifer y casgliadau yn golygu y bydd rhagor o aelodau staff yn rhydd i’n helpu ni i ymdrin â phroblemau a gaiff eu hachosi gan dywydd oer, fel llwybrau graeanu neu waith cynnal a chadw cyffredinol. Bydd y casgliadau bob pythefnos yn ailddechrau ym mis Mawrth, yn barod ar gyfer y gwanwyn.”
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Defnyddiwch y calendr biniau i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf
Mae’r calendrau casgliadau biniau ac ailgylchu newydd ar gyfer 2021-22 ar gael ar ein gwefan bellach.
Os ydych am weld eich calendr biniau ar gyfer y deuddeg mis nesaf, ewch i wrecsam.gov.uk/biniau, sgroliwch i lawr a chlicio ar eich calendr.
Mae’n ffordd rhwydd iawn o weld gwybodaeth am eich casgliadau, a gall olygu na fyddwch chi’n methu casgliadau biniau.
Derbyn rhybudd yn eich atgoffa i roi eich bin allan
Os nad ydych chi am fod yn gwirio eich calendr bob wythnos, gallwch gofrestru i gael rhybudd e-bost yn lle hynny. Caiff ei anfon y diwrnod cyn eich diwrnod casglu i’ch atgoffa i roi eich bin allan, a pha un i’w roi allan.
Ydych chi am gael y negeseuon hyn? Cliciwch ar y botwm isod.
DERBYN RHYBUDD YN EICH ATGOFFA I ROI EICH BIN ALLAN