Bydd y modd y caiff y Rhestr Stoc o Ddefaid a Geifr ei chynnal yng Nghymru yn newid i ddod â’r rhestr stoc flynyddol yr un fath â chenhedloedd eraill y DU.
Dyddiad y rhestr stoc nawr fydd 1 Rhagfyr 2024. Bydd y wybodaeth sydd ei hangen yn aros yr un fath.
Mae yna ddau newid sylweddol:
- newid dyddiad y Rhestr Stoc Flynyddol
- symud i Restr Stoc Flynyddol ar-lein
O hyn ymlaen ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r ffurflenni papur arferol ar gyfer y rhestr stoc.
Yn y dyfodol bydd y dull o gyflwyno eich rhestr stoc drwy eich cyfrif ar-lein EIDCymru.
Caiff ceidwaid Defaid a Geifr nad oes ganddynt gyfrif eu hannog i gofrestru am un dros yr haf.
Mae cydweithwyr yn swyddfa EIDCymru yn hapus i’ch helpu chi i gofrestru am gyfrif ar-lein. Hefyd gallant ateb unrhyw ymholiadau allai fod gennych. Maent ar gael:
- drwy e-bost: contact@eidcymru.org, neu
- drwy ffonio: 01970 636959
Cyn i’r rhestr stoc agor bydd unrhyw geidwad heb gyfrif EIDCymru yn derbyn llythyr gyda dolen ar-lein fel dull amgen o gwblhau’r rhestr stoc. Os oes yna amgylchiadau eithriadol cynghorir chi i gysylltu ag EIDCymru.
Os hoffech drafod y newid, fe allwch siarad gyda chydweithwyr o:
- EIDCymru
- y Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm
- Cyswllt Ffermio
Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar wefan Llywodraeth Cymru
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Woody’s Lodge yn agor ei siop elusen gyntaf yn Wrecsam i gefnogi cyn-filwyr a’r gwasanaethau golau glas
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch