Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Byddwch yn ddi-ofn yn wyneb gwastraff bwyd…Bydd wych. Ailgylcha.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Byddwch yn ddi-ofn yn wyneb gwastraff bwyd…Bydd wych. Ailgylcha.
Y cyngor

Byddwch yn ddi-ofn yn wyneb gwastraff bwyd…Bydd wych. Ailgylcha.

Diweddarwyd diwethaf: Medi 15, 2020 3:46 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Byddwch yn ddi-ofn yn wyneb gwastraff bwyd… Byddwch yn Arwr. Ailgylchwch.
RHANNU

Mae Wythnos Ailgylchu 2020 yma a gofynnir i bawb yng Nghymru fod yn Arwyr ac i Ailgylchu.

Cynnwys
  • Mae’r rhan fwyaf ohonom yn ailgylchu ein gwastraff bwyd…ond gallwn wella
  • Rhowch gynnig ar ein cwis
  • Beth alla i roi yn fy nghadi bwyd?
  • Peidiwch â rhoi deunyddiau eraill i’w hailgylchu yn eich cadi…

Bydd ailgylchu gwastraff bwyd yn chwarae rhan fawr yn hyn, ac er mwyn i ni fod yn ddi-ofn yn wyneb gwastraff bwyd, bydd rhaid i bob un ohonom gymryd amser i ddeall yr holl bethau y gallwn eu hailgylchu yn ein cadis bwyd.

Angen cadi bwyd? Archebwch un am ddim ar ein gwefan.

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn ailgylchu ein gwastraff bwyd…ond gallwn wella

Mae’r rhan fwyaf ohonom erbyn hyn yn ailgylchu ein gwastraff bwyd yn ein cadis bwyd, ac rydym yn gwneud cynnydd cyson yn Wrecsam. Y llynedd, casglwyd 2,540 tunnell o wastraff bwyd, sy’n swnio fel llawer iawn. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod pobl yn Wrecsam sy’n parhau i roi eu gwastraff bwyd yn eu biniau gwastraff cyffredinol, felly mae digon o le i wella.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Yn anffodus yn Wrecsam mae nifer ohonom yn parhau i fethu ag ailgylchu ein gwastraff bwyd, ac anogwn yn gryf i’r bobl hyn newid eu harferion; mae cymaint o resymau iddynt wneud hyn.

“Ynghyd â’r manteision amgylcheddol mawr, rydym yn cynnig bagiau cadi am ddim, a thrwy ailgylchu bwyd rydych yn rhyddhau gofod yn eich biniau. Mae hefyd yn eich helpu i stopio’ch biniau rhag arogli o fwyd yn pydru – cofiwch fod eich cadi bwyd yn cael ei wagio bob wythnos, nid yw hynny’n wir am eich gwastraff cyffredinol!

“Diolch i bawb sy’n ailgylchu eu gwastraff bwyd ac i’r rhai nad ydynt, dechreuwch wneud eich rhan. Cymrwch amser i ddeall beth sy’n gallu cael ei ailgylchu yn eich cadi bwyd… efallai bydd rhai o’r pethau hyn yn eich synnu!”

Rhowch gynnig ar ein cwis

Meddwl eich bod chi’n gwybod popeth am ailgylchu gwastraff bwyd yn Wrecsam?

Rhowch gynnig ar ein cwis byr i weld os allwch gael marciau llawn!

[interact id=”5f60c566bd1e6300142debb8″ type=”quiz”]

Sut wnaethoch chi? Edrychwch isod i weld pa bethau eraill sy’n gallu mynd i’ch cadi bwyd.

Beth alla i roi yn fy nghadi bwyd?

Dyma gasgliad o’r pethau sy’n gallu cael eu hailgylchu fel gwastraff bwyd:

• Bwyd sydd dros y dyddiad
• Esgyrn a charcasau
• Plisgyn wyau
• Croen banana (a philion eraill)
• Calonnau afalau
• Bagiau te
• Coffi mân
• Bwydydd amrwd
• Bwydydd sydd wedi llwydo
• Crafion platiau
• Prydau parod heb eu bwyta
• Bwyd brys (e.e. sglodion a phitsas)
• Pysgod cregyn
• Cyllyll a ffyrc pren
• Prennau lolipop

Peidiwch â rhoi deunyddiau eraill i’w hailgylchu yn eich cadi…

Pethau nad ydyn ni eisiau i chi geisio eu hailgylchu fel gwastraff bwyd yw:

• Hylifau (fel llaeth neu olew)
• Deunydd pecynnu
• Bagiau plastig
• Clytiau
• Gwastraff gardd

Cofiwch, os oes angen cadi bwyd newydd arnoch, gallwch archebu un am ddim ar ein gwefan.

Rhedeg allan o fagiau cadi? Clymwch un gwag i handlen eich cadi ar eich diwrnod casglu ac mi wnawn ni adael rholyn newydd i chi. Mae mor syml â hynny!

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ingot Plwm Rhufeinig Unigryw mewn Arddangosfa yn Amgueddfa Wrecsam Ingot Plwm Rhufeinig Unigryw mewn Arddangosfa yn Amgueddfa Wrecsam
Erthygl nesaf Guildhall balcony lit green for Recycle Week 2020 Golau gwyrdd ar gyfer Wythnos Ailgylchu…Bydd Wych. Ailgylcha.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English