Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen iPads yn darparu achubiaeth hanfodol i 5 o ddefnyddwyr llyfrgell ynysig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle
50
Arbenigwyr gwelyau hynafol Wrecsam yn dathlu 50 mlynedd
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > iPads yn darparu achubiaeth hanfodol i 5 o ddefnyddwyr llyfrgell ynysig
Y cyngor

iPads yn darparu achubiaeth hanfodol i 5 o ddefnyddwyr llyfrgell ynysig

Diweddarwyd diwethaf: 2020/07/23 at 5:08 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
iPad
RHANNU

Mae staff y llyfrgell wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â staff o’r tîm gofal cymdeithasol i oedolion i helpu i ddarparu prosiect newydd i aelodau ynysig a diamddiffyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Cynnwys
Defnyddio ei iPad bob diwrnod“Fydda i fyth yn unig gyda llyfr i’w ddarllen”

Prynwyd nifer o iPads gyda’r Grant Cynhwysiant Cymunedol (a sefydlwyd i helpu aelodau diamddiffyn o’r gymuned) i gefnogi’r rhai sydd wedi cael eu nodi fel bod mewn risg o gael eu hynysu ymhellach fyth o’r rhai sy’n bwysig iddynt.  Mae’r iPads yn achubiaeth iddynt er mwyn cysylltu â ffrindiau a theulu a gwneud iddynt deimlo yn fwy cysylltiedig â phobl, ar adeg anodd iawn.

SUT I GAEL PRAWF OS OES GENNYCH SYMPTOMAU CORONAFIRWS

Diolch i’r grant, mae llyfrgelloedd yn Wrecsam hefyd wedi gallu rhoi iPads 5 a 4G i bobl yn y gymuned sydd fel arfer yn defnyddio gwasanaethau llyfrgell, ond oherwydd y cyfyngiadau presennol a diffyg technoleg yn y cartref, wedi methu gwneud y mwyaf o’r cynnig digidol.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae Elodie, merch ifanc sy’n defnyddio Gwasanaeth Llyfrgell Homelink a sydd wedi cael ei rhoi ar y rhestr warchod oherwydd cyflyrau iechyd difrifol, wedi bod yn gwarchod ei hun drwy gydol y cyfnod clo, ac yn parhau i wneud hynny tra bod angen.

Defnyddio ei iPad bob diwrnod

Mae Elodie wedi bod dan ofal Tŷ Gobaith, a ddaeth i ben ar unwaith pan ddechreuodd y cyfnod clo, ond gyda’r iPad, mae hi bellach yn defnyddio zoom a FaceTime i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a’i rhwydwaith cefnogi. Mae Elodie wedi bod yn defnyddio ei iPad bob diwrnod, a dywedodd bod hyn wedi gwneud y cyfnod clo yn llawer haws. Mae hi hefyd wedi cael addysg yn y cartref gan ddefnyddio’r iPad, yn ogystal â’i ddefnyddio i gadw mewn cysylltiad â’i theulu.

Mae Janet Roberts, cwsmer Llyfrgell Homelink arall, hefyd wedi bod yn ynysu ers mis Mawrth. Mae hi’n byw mewn fflat gyda gerddi a rennir, ac er gwaethaf y tywydd braf, nid yw hi wedi mentro allan o gwbl. Diolch i’r iPad, mae hi bellach yn gallu lawrlwytho llyfrau clywedol am ddim gan y gwasanaeth llyfrgell a chadw mewn cysylltiad â’i brawd a’i gi bach newydd, ac mae hi’n teimlo’n llawer hapusach am ei sefyllfa.

“Fydda i fyth yn unig gyda llyfr i’w ddarllen”

Mae gan Barbara Evans ganser, ac felly trwy gydol y cyfnod clo, nid yw hi wedi dod i gyswllt ag unrhyw un. Mae hi’n ddarllenydd brwd, ac yn darllen tua 25 o lyfrau bob mis, felly fe ddioddefodd pan ddaeth y gwasanaeth llyfrgell i ben a phan gafodd ymweliadau Homelink eu hatal dros dro. Ar ôl derbyn ei iPad, dywedodd “Fydda i fyth yn unig gyda llyfr i’w ddarllen”. Mae ei theulu yn byw yn yr Aifft, felly bydd hi’n defnyddio’r iPad i gysylltu â nhw drwy Facetime neu Zoom, er mwyn sicrhau ei theulu ei bod hi’n cadw’n iach.

Dywedodd y Cyng. John Pritchard, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi: “Mae’r iPads yn fenter wych ac yn darparu cyswllt hanfodol gyda ffrindiau a theulu y rhai nad ydynt yn gallu mynd allan oherwydd eu bod yn gwarchod eu hunain. Hoffwn ddiolch i bawb oedd yn rhan o’r gwaith i wireddu’r fenter a dymunaf yn dda i bawb wrth i ni fynd trwy’r wythnosau nesaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Dyma esiamplau gwych o weithio mewn partneriaeth ar draws adrannau, i helpu’r rhai mwyaf diamddiffyn yn ein plith. Hoffwn i hefyd ddiolch i bawb am gynnig a darparu’r gefnogaeth gymunedol hanfodol.”

Os nad allwch ymweld â’r llyfrgell na defnyddio eu gwasanaeth Archebu a Chasglu, ac os oes gennych fynediad at ddyfais ddigidol, beth am lawrlwytho e-lyfr, e-lyfr clywedol neu e-gylchgrawn am ddim? Ewch i www.wrecsam.gov.uk/llyfrgelloedd a chliciwch ar y ddolen gwasanaeth ar-lein lle gallwch ddod o hyd i nifer o bethau i’w gwneud.

Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws

YMGEISIWCH RŴAN

Rhannu
Erthygl flaenorol Play Areas Newyddion gwych i rieni – Disgwylir i Ardaloedd Chwarae agor yfory (24.07.20)
Erthygl nesaf CYNLLUN BWYTA ALLAN I HELPU ALLAN CYNLLUN BWYTA ALLAN I HELPU ALLAN

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor Gorffennaf 1, 2025
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Mehefin 30, 2025
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Mehefin 30, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Food Waste Recycling Caddy
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn

Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Y cyngor

Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu

Gorffennaf 1, 2025
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr

Mehefin 30, 2025
Rydyn ni'n chwifio'r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Rydyn ni’n chwifio’r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog

Mehefin 23, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English