Weithiau bydd pobl sy’n cael trafferthion ariannol yn chwilio am ateb sydyn. Fodd bynnag, mae’n bwysig iawn eu bod nhw’n deall bod yna ffyrdd llawer gwell na benthyg arian gan fenthycwyr arian didrwydded.
Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru (WIMLU) yw asiantaeth y llywodraeth sy’n ymchwilio i ac yn erlyn benthycwyr arian didrwydded. Mae arnyn nhw eisiau i chi ymladd yn ôl drwy adrodd am yr unigolion hyn er mwyn iddyn nhw gael gwared arnyn nhw o’ch cymuned.
Beth ydi benthyciwr arian didrwydded?
Mae benthycwyr arian didrwydded yn gweithredu’n anghyfreithlon heb awdurdod credyd defnyddwyr ac yn targedu pobl ddiamddiffyn – naill ai oherwydd tlodi neu ddyled, neu oherwydd anawsterau yn eu bywydau fel dibyniaeth neu broblemau iechyd. Pan fydd arian yn brin mae cael cynnig arian parod yn gallu ymddangos yn ddeniadol iawn, ond mae’r canlyniadau yn aml yn drychinebus.
Os ydych chi mewn argyfwng ariannol oherwydd #COVID19, gall siarc benthyca yn y gymuned ymddangos yn gyfeillgar ac yn ddefnyddiol. Fodd bynnag, gallant achosi trallod enfawr yn y tymor hir. #stoploansharkswales
— Stop Loan Sharks Wales (@LoanSharksWales) May 21, 2020
Mae WILMU yn rhybuddio y bydd benthycwyr arian didrwydded yn twyllo benthycwyr drwy godi llog anghredadwy (400,000% APR cyn heddiw!). Ar ben hynny, maen nhw’n codi taliadau cosb fel y mynnon nhw.
“Dydyn nhw ddim yn meddwl ddwywaith cyn ychwanegu at ddyledion pobl”
Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau: “Gall Benthycwyr Arian Didrwydded ymddangos yn bobl gyfeillgar iawn pan fyddan nhw’n benthyg arian i chi, ond peidiwch â chael eich twyllo… mae’r bobl yma yn cymryd mantais ac yn defnyddio bygythiadau, dulliau brawychu a thrais i sicrhau eu taliadau.
“Maen nhw’n targedu pobl ddiamddiffyn a dydyn nhw ddim yn meddwl ddwywaith cyn ychwanegu at ddyledion pobl, a all godi’n gyflym iawn. Efallai eich bod chi wedi bwriadu talu eich dyled yn ôl o fewn ychydig wythnosau ond, yn aml iawn, byddwch yn talu am gyfnod llawer, llawer hirach. Does dim gwaith papur ar gyfer eich benthyciad a bydd benthycwyr arian didrwydded yn creu ac yn newid y rheolau fel y mynnon nhw.”
Mae help ar gael
I unrhyw un yn y sefyllfa yma, mae help ar gael. Gallwch roi gwybod i’r Tîm Benthyg Arian yn Anghyfreithiol yn gyfrinachol, ac fe allan nhw wedyn eich cynorthwyo chi a mynd i’r afael â’r troseddwyr.
Mae Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru yn annog trigolion Wrecsam i wneud yn siŵr bod unrhyw un sy’n cynnig benthyg arian yn meddu ar awdurdod credyd defnyddwyr. Os ydych chi wedi dioddef yn sgil benthyciwr arian didrwydded, neu os ydych chi’n credu bod yna un yn gweithredu yn eich ardal chi, ffoniwch yr Uned ar y llinell 24 awr: 0300 123 3311. Does dim rhaid i chi adael eich enw.
Bydd swyddogion cyswllt cleientiaid arbennig yn cefnogi ac yn cynorthwyo dioddefwyr, gan ddarparu cyngor ar ddyledion a phroblemau eraill. Meddai Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru: “Rhoddir rhybudd i fenthycwyr arian didrwydded, rydym ni’n benderfynol o ddifa’r math yma o drosedd.”
I dderbyn rhagor o wybodaeth gallwch anfon neges at yr Uned i imlul@cardiff.gov.uk neu ffonio 0300 123 3311.
Eich Undeb Credyd
Os ydych chi’n cael trafferthion ariannol ac angen cymorth, mae defnyddio eich Undeb Credyd yn ffordd lawer rhatach a diogelach o dderbyn benthyciad.
Dyma rai o’r manteision:
• Ffurflen gais syml
• Cyfraddau llog isel
• Penderfyniadau sydyn
• Dim cosbau am ad-dalu’n gynnar
I ddarganfod mwy a sut i wneud cais ewch i www.cambriancu.com/cy/
Os ydych chi’n cael trafferth gyda dyled a ddim yn gwybod ble i droi, mae yna help ar gael i chi reoli’ch arian.
Cysylltiadau defnyddiol
Cyngor ar Bopeth, Wrecsam (Gwasanaeth Cymdeithasol a Lles) – 01824 703483
Cyngor ar Bopeth, Wrecsam (Gwasanaeth Cyfreithiol) – 0844 826 9690
Vesta SFS (Cymorth Arbenigol i Deuluoedd – ar gyfer teuluoedd Pwylaidd yng Nghymru) – info@vestasfs.org
Gallwch hefyd ffonio llinell Cyngor i Ddefnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144.
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN