Ffan o Jazz? Neu am roi cynnig ar rywbeth newydd?
Yna, beth am ddod i Tŷ Pawb ddydd Mercher, Mehefin 5 am 8pm, i glywed difyrrwch Brownfield Byrne Hot Six?
Yn perfformio brand o swing heintus, mae’r Hot Six, dan arweiniad Liam Byrne (sacsoffon tenor) a Jamie Brownfield (trwmped), yn chwarae jazz clasurol o New Orleans drwy’r llyfr caneuon Americanaidd i’r brif ffrwd, wedi’i ysbrydoli gan y grwpiau bach clasurol ac arddull y cyfnod swing o ddiwedd y 1930au a dechrau’r 1940au.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Mae Brownfield Byrne Hot Six wedi llwyddo i ddynwared sain wreiddiol tra’n cadw’r traddodiad jazz yn gadarn, ac maen nhw’n parhau i fod yn boblogaidd mewn clybiau a gwyliau jazz ar hyd a lled y wlad.
Mae gan y trwmpedwr Jamie Brownfield, enillydd y categori Rising Star yng Ngwobrau Jazz Prydain 2012, arddull chwarae eang. Yn fwy diweddar, mae Jamie newydd ddychwelyd o New Orleans ar ôl ennill cystadleuaeth British Airways clodfawr i berfformio yn ystod taith awyren VIP ar gyfer yr enwog Mardi Gras, lle cafodd y cyfle i chwarae gydag un o’i arwyr trwmped modern, Leroy Jones.
Mae Liam Byrne yn chwarae sacsoffon tenor. Graddiodd o Ysgol Gerdd Guildhall Llundain a fo yw trefnwr y band. Yn ffefryn cynyddol gyda chlybiau jazz o amgylch y wlad, gellir ei glywed yn aml yn perfformio gyda nifer o fandiau, gan gynnwys Andy Prior Big Band, ac yn ddiweddar mae wedi perfformio’n ganmoladwy iawn gyda’r sacsoffonydd tenor o’r UD, Harry Allen mewn band gyda Dave Newton a Dave Green ar y piano a’r bas dwbl.
Ar yr allweddellau, mae Tom Kincaid wedi bod yn boblogaidd iawn gyda llawer o artistiaid teithiol ac arweinwyr bandiau, ac mae wedi perfformio gyda’r sacsoffonydd jazz Art Themen a Scott Hamilton, yn ogystal ag arwr roc a rôl ei blentyndod, Shakin Stevens.
Gweddill y band Brownfield Byrne Hot Six yw Andy Hulme (gitâr), Jim Swinnerton (bas dwbl) a Jack Cotterill (drymiau).
- Yn dechrau am 8pm
- Talu wrth y drws!
- Mynediad £8
- Gostyngiadau £7
- Aelodau NWJ £6
- Plant ysgol ac aelodau Undeb y Myfyrwyr £3
Mae mwy o wybodaeth am y digwyddiad ar gael ar Facebook page.
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU