Bydd Canolbwynt Cyfeillgarwch Wrecsam yn cynnal Cinio Picnic Mawr ar ddydd Iau, 6 Mehefin rhwng 12pm a 2pm ar Lwyn Isaf. Yr oll sy’n rhaid i chi ei wneud yw dod â chinio picnic, sgwrsio a chwrdd â phobl newydd.
Pwy yw’r Canolbwynt Cyfeillgarwch?
Mae Canolbwynt Cyfeillgarwch Wrecsam yn cael ei redeg gan bobl leol gydag anableddau sydd bob tro’n croesawu aelodau newydd sydd eisiau cymryd rhan!
Maen nhw’n cwrdd bob dydd Iau am 11am yn y Canolbwynt Lles ac yna’n mynd am ginio cyn symud ymlaen i elusen Yellow & Blue am 1pm.
Mae’r canolbwynt yn le gwych i wneud ffrindiau newydd, i gael sgwrs a phaned, ac i fwynhau llawer o weithgareddau llawn hwyl fel y Cinio Picnic Mawr!
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Gorymdaith yng Nghanol y Ddinas i goffáu 80 mlynedd ers glaniadau D-Day