Yn ddiweddar, fe aeth Katie Cuddon, yr artist a gomisiynwyd i greu Wal Pawb, gwaith celf mawr cyhoeddus yn y cyfleuster celfyddydau a marchnad newydd, i ymweld â Wrecsam am bedwar diwrnod i gwrdd â grwpiau cymunedol a chael ysbrydoliaeth ar gyfer ei gwaith.
Bydd Katie yn cynhyrchu chwe llun ar raddfa fawr, i’w lleoli rhwng y farchnad a’r oriel gelf yn y cyfleuster, pan fydd yn agor yn y gwanwyn flwyddyn nesaf.
Tra yn Wrecsam, fe aeth Katie i gwrdd â rhieni a phlant, masnachwyr y farchnad, artistiaid lleol a phobl ifanc. Bydd Katie’n parhau i weithio o’i stiwdio gan ddiweddaru pawb sy’n gysylltiedig â’r prosiect ar ei gwaith.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Dywedodd Katie:
“Roedd gweld y safle ar gyfer y cyfleuster newydd yn dod at ei gilydd yn gyffrous iawn ac mi wnes i fwynhau cyfarfod â masnachwyr ym Marchnad y Cigyddion a chael cyfle i siarad am y prosiect Wal Pawb. Llwyddodd y plant, a ddaeth i’r gweithdy gludwaith a drefnais, i greu gwaith ardderchog a oedd yn hynod ddyfeisgar, a’u lluniau hwy sy’n aros yn y cof pan rwyf yn meddwl am Wrecsam a’r prosiect.”
Bydd Katie’n cadw mewn cysylltiad â ni ac fe fydd yn dychwelyd ym mis Tachwedd i ddangos sut mae ei gwaith yn datblygu. Bydd ei gwaith terfynol yn cael ei ddatgelu yn y Gwanwyn 2018, fel rhan o’r dathliadau i lansio’r cyfleuster Celfyddydau, Marchnad a Diwylliant newydd, gwerth £4.5 miliwn, sydd yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd ar gyn safle Marchnad Y Bobl.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI