Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd yr Angel Cyllyll enwog a grëwyd o gyllyll a gasglwyd ledled y Deyrnas Unedig, o’r diwedd yn dod i Wrecsam i Sgwâr y Frenhines fis Hydref, mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru, Coleg Cambria a’r Gwaith Haearn Prydeinig.
Mae’r Angel Cyllyll yn ddarn o gelf o arwyddocâd cenedlaethol wedi’i wneud o 100,000 o gyllyll a atafaelwyd ac a grëwyd gan yr artist Alfie Bradley. Mae ganddo daldra trawiadol o 27 troedfedd ac fe’i cynlluniwyd i fod yn effeithiol wrth newid agweddau tuag at ymddygiad treisgar ac fel cofeb a luniwyd i ddathlu’r rhai y collwyd eu bywydau trwy droseddau cyllyll.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae arysgrifau ar rai o’r llafnau hefyd, sef negeseuon gan deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid oherwydd troseddau cyllyll.
Fe’i crëwyd yn benodol ar gyfer amlygu effeithiau negyddol ymddygiad treisgar a bydd rhaglen o weithdai ac ymweliadau wedi’u hanelu at bobl ifanc yn Wrecsam dros y 30 diwrnod.
“Mae’r Angel Cyllyll yn gysyniad hanfodol bwysig”
Dywedodd Ian Bancroft, Prif Weithredwr, “Rwy’n falch iawn ein bod o’r diwedd yn gallu dod â’r gwaith celf hwn o arwyddocâd cenedlaethol i Wrecsam. Mae’n cyfleu neges ddifrifol ac rwy’n gwybod bod llawer o weithgareddau’n cael eu paratoi er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn cael profiad o’r Angel Cyllyll ynghyd â’i neges. Wrth gwrs, bydd modd i holl aelodau’r cyhoedd gael ei weld, a fydd yn sicr o gyflwyno manteision uniongyrchol i ganol y dref”
Mae’r Prif Arolygydd Dros Dro, Luke Hughes o Heddlu Gogledd Cymru yn credu “Mae’r Angel Cyllyll yn gysyniad hanfodol bwysig ac yn ceisio ein hatgoffa ni oll o’r trasiedi posib sy’n gysylltiedig â throsedd cyllyll. Mae’n ddyletswydd ar y gymuned i ddod ynghyd i ddeall arwyddocâd y digwyddiad hwn a defnyddio’r Angel fel man cychwyn wrth wneud Gogledd Cymru yn lle hyd yn oed mwy diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag o.”
Yn wreiddiol, bwriadwyd i’r darn o gelf ddod i Wrecsam ym mis Gorffennaf 2020, ond bu’n rhaid ei ohirio oherwydd pandemig Covid-19.
Yn Wrecsam, mae’r Angel Cyllyll wedi ysbrydoli’r partneriaid i greu cerflun eu hunain sy’n cael ei adeiladu ar safle Ffordd y Bers, Coleg Cambria, lle bydd myfyrwyr a staff yn treulio’r flwyddyn nesaf yn weldio a saernïo’r eitemau a gyflwynwyd – gan gynnwys llafnau a dyrnau haearn – ar ffrâm ddur.
Dywedodd Karl Jackson, Pennaeth Cynorthwyol y Sefydliad Technoleg ac Arweinydd Safle yn Ffordd y Bers: “Bydd y cerflun hwn yn ganolbwynt ar gyfer gwaith aml-asiantaeth a fydd yn hysbysu ac addysgu mewn ymdrech i gadw nifer yr achosion yn isel a lleihau’r achosion o droseddau cyllyll yn yr ardal.
Talodd Guy Vine, Mentor Pobl Ifanc, deyrnged i’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a’r Gwasanaeth Ieuenctid, a chwaraeodd ran allweddol yn dod â phrosiect y Ddraig Gyllyll ynghyd, dywedodd, “Heb eu cefnogaeth a’u brwdfrydedd i wneud rhywbeth cadarnhaol, ni fyddai’r grŵp wedi dechrau arni. Nawr fod y ddraig wrthi’n cael ei chreu, maen nhw, fel pawb arall, yn edrych ymlaen at weld y gwaith yn cael ei gwblhau a’i ddadorchuddio.”
Gallwch ddarllen mwy am hyn yma:
Bydd draig gyllyll yn cael ei defnyddio fel arf ar gyfer addysg.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH