Plant a staff o Ysgol Gynradd Alexandra oedd y diweddaraf i gael cyfle i fwynhau’r cyfleusterau yn y labordy Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yn Ysgol Clywedog!
Adeiladwyd labordy STEM, sy’n rhoi mynediad i ysgolion at amrywiaeth o offer, dyfeisiau a mannau prosiect ‘Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg’, fel rhan o raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Wrecsam yn ystafelloedd yr Awdurdod Lleol yn Ysgol Clywedog.
Bu disgyblion o flynyddoedd 3, 4, 5 a 6 Ysgol Alexandra yn ymweld ddydd Iau, 29 Chwefror a chawsant amser gwych yn dysgu yn yr ystafelloedd STEM, gan brofi amrywiaeth o wahanol dasgau a gweithgareddau addysgol.
Darparwyd y sesiynau gan ein partner STEM newydd CreativeHUT, a bu’r plant yn symud ar draws yr ystafelloedd trwy gydol y diwrnod fel bod pawb yn cael gwneud y mwyaf o’r profiad llawn.
Mewn un ystafell, roedd y plant yn symud robotiaid Sphero BOLT trwy ddefnyddio codio trwy eu iPads i ddatrys gwahanol heriau a osodwyd.
Yn yr ystafelloedd eraill, roedd y plant yn dysgu trwy ddefnyddio LEGO® Education. I ddechrau, buon nhw’n defnyddio LEGO® i adeiladu robotiaid gyrru gyda synwyryddion a dysgu sut i’w rhaglennu i deithio pellter penodol yn ogystal â defnyddio’r synwyryddion i stopio’r robotiaid.
Yn yr ystafell nesaf, roedd y tasgau’n seiliedig ar wyddoniaeth, adeiladu a chodio. Eto, bu’r plant yn adeiladu a chodio cerbydau LEGO® a defnyddio grymoedd gwthio a thynnu i’w symud o gwmpas. Roedd y gweithgareddau hyn yn addysgu codio a pheirianneg iddynt gyda’i gilydd.
“Mae popeth yma eisoes, yn barod i’w ddefnyddio”
Dywedodd Amy Pope, Arweinydd Digidol Ysgol Gynradd Alexandra: “Gall offer digidol fod yn ddrud i’n hysgol, felly mae’n wych ymweld â rhywle lle mae popeth yno eisoes, yn barod i’w ddefnyddio. Mae dysgu digidol mor bwysig, felly mae rhoi cyfleoedd i’r plant i brofi’r math gwahanol hwn o ddysgu yn wych.”
Cyfleuster y gall pob ysgol gynradd ac uwchradd yn Wrecsam ei ddefnyddio”
Dywedodd Neil Taylor o CreativeHUT: “Fel cwmni, ein nod yw cefnogi dysgu STEM a chynnig cyfleoedd difyr, creadigol ac ymgysylltiol i ddisgyblion. Ar ddiwrnodau fel heddiw, gallwch weld yr effaith gadarnhaol mae’n ei chael ar ddysgu plant yn uniongyrchol, sydd bob amser yn wych. Mae’r cyfleuster hwn yn wych a gall pob ysgol gynradd ac uwchradd ei ddefnyddio. Mae’n help mawr i athrawon ddarparu’r cwricwlwm ac mae’n helpu disgyblion i ddatblygu llawer o sgiliau pwysig sy’n eu paratoi nhw ar gyfer y dyfodol.”
“Sesiynau hyfforddiant i athrawon Wrecsam”
Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Mae’n wych gweld bod disgyblion a staff Ysgol Alexandra wedi mwynhau eu hymweliad. Mae ystafelloedd ac adnoddau STEM yn gwbl agored ac ar gael i ysgolion eu harchebu ac rydym yn eu hannog i fanteisio ar y cyfle. Byddwn yn trefnu nifer o sesiynau hyfforddiant STEM am ddim i athrawon a staff cefnogi Wrecsam bob blwyddyn gyda CreativeHUT hefyd.”
Pa adnoddau sydd ar gael yn labordy STEM Wrecsam?
Mae ystafelloedd labordy STEM uwchben ardal derbynfa Ysgol Clywedog ond maen nhw’n gwbl ar wahân i weithrediad yr ysgol ac mae’r cyfleusterau canlynol ar gael:
- Dwy ystafell ddosbarth sy’n canolbwyntio ar STEM, gyda phob un yn gallu cefnogi grŵp o 16 o ddisgyblion (mae un ystafell ddosbarth wedi’i gosod i gefnogi adnoddau LEGO® Education, ac mae un ystafell ddosbarth wedi’i gosod fel ystafell brosiect fwy hyblyg)
- Un ystafell TGCh a chyfrifiaduron gydag 16 gorsaf waith
- Un ystafell gynadledda/gyfarfod sy’n gallu cefnogi grwpiau o hyd at 16 o bobl
Mae’r adnoddau / offer canlynol ar gael yn y lab ar hyn o bryd hefyd:
- Un set dosbarth (10 uned) o LEGO® Education SPIKE™ Prime
- Un set dosbarth (10 uned) o LEGO® Education WeDo 2.0
- Un set dosbarth (12 uned) o Sphero BOLT™
- Un set dosbarth (10 uned) o becynnau cychwynnol Crumble a phump bygi Crumble gyda synwyryddion
- 15 bwrdd BBC Microbit
- Dau argraffwr 3D
Sut gall fy ysgol gymryd rhan?
Nid oes cost i ysgolion Wrecsam ddefnyddio’r cyfleusterau hyn pan fyddwch chi’n rhedeg sesiynau eich hunain.
Mae ysgolion yn gallu archebu’r ystafelloedd a rhedeg eu sesiynau eu hunain naill ai’n uniongyrchol neu trwy’r grwpiau Clwstwr Digidol yn Wrecsam lle mae arbenigedd yn y clwstwr.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at schoolsictprocurement@wrexham.gov.uk
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.